Welsoch chi ein addurniadau ar S4C?

Llun ohonaf yn dychwelyd o Foel Maban Roedd yr wythnos yma yn un brysur a hardd ofnadwy. Cychwynais fy wythnos ym hlas Tan y Bwlch, ble roedden nhw wedi bod yn rhan o'r rhaglen Priodas Pum Mil ar S4C! Roedd gennym ni'r bleser o helpu'r staff yno gyda'r addurniadau gan ddenfyddio planhigion lleol o gwmpas y Plas. Penderfynom ni gasglu rhywogaethau traddodiadol Nadoligaidd fel celyn, ffynidwydd, eucalyptus a mwy er mwyn iddyn nhw greu addurniadau hardd i'r priodas fel a welwyd yn y llun isod. Addurniadau hardd ym Mhlas Tan y Bwlch Os rydych gyda'r cyfle (neu wedi gweld yr rhaglenyn barod), triwch gweld yr addurniadau hardd yn y cefndir a chasglwyd gan ni a staff y Parc Cenedlaethol ar gyfer y rhaglen! Ar gyfer gweddill yr wythnos, ar ôl diwrnodau i wneud gwaith i Goleg Cambria , roedd digwyddiadau plannu yn ôl ar gyfer fy amser gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roeddwn ni'n gyfarfod yr un cwmni eto o Fangor sef Finastra ond yr ail hanner o'r swyd...