Welsoch chi ein addurniadau ar S4C?

 

Llun ohonaf yn dychwelyd o Foel Maban

Roedd yr wythnos yma yn un brysur a hardd ofnadwy. Cychwynais fy wythnos ym hlas Tan y Bwlch, ble roedden nhw wedi bod yn rhan o'r rhaglen Priodas Pum Mil ar S4C! Roedd gennym ni'r bleser o helpu'r staff yno gyda'r addurniadau gan ddenfyddio planhigion lleol o gwmpas y Plas. Penderfynom ni gasglu rhywogaethau traddodiadol Nadoligaidd fel celyn, ffynidwydd, eucalyptus a mwy er mwyn iddyn nhw greu addurniadau hardd i'r priodas fel a welwyd yn y llun isod.

Addurniadau hardd ym Mhlas Tan y Bwlch

Os rydych gyda'r cyfle (neu wedi gweld yr rhaglenyn barod), triwch gweld yr addurniadau hardd yn y cefndir a chasglwyd gan ni a staff y Parc Cenedlaethol ar gyfer y rhaglen!

Ar gyfer gweddill yr wythnos, ar ôl diwrnodau i wneud gwaith i Goleg Cambria, roedd digwyddiadau plannu yn ôl ar gyfer fy amser gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roeddwn ni'n gyfarfod yr un cwmni eto o Fangor sef Finastra ond yr ail hanner o'r swyddfa roedd yn mynychu tro yma.

Fi yng Ngwern Gôf Isaf gyda'r gwirfoddolwyr Finastra yn plannu coed

Yr un fath â tro diwethaf, mi wnes i ag Eleri dangos i'r gwirfoddolwyr sut i roi'r caets i fyny'n gywir cyn wahanu nhw i grwpiau o dri fel welwch yn y llun uchod. Nes diwedd yr amser dynodedig roedden nhw wedi blannu 15 caets ychwanegol yn ogystal â mwy o goed mewn guards. I orffen roedd y grŵp cyfan o Finastra wedi blannu tua 37 o goed mewn caets a thua 75 mewn guards!

Llun ohonaf, Eleri ag Etta ar y safle yng Ngwern Gôf Isaf

Roedd yr wythnos bron wedi dod i ben ond penderfynais Eleri i fynd â ni i fyny i safle Moel Faban ar ddiwedd y diwrnod oherwydd roedd angen i ni cwrdd a gwirfoddolwyr â oedd wrthi'n torri eithin. Mi roedden nhw'n torri eithin ar safle gwahanol i lle roeddwn i tro diwethaf i'r pwrpas o ddod â mwy o nodweddion archaeolegol i'r golygfa. Roedd angen i ni drafod trefniadau'r caets llosgi yn ogystal â'r planiau gwirfoddoli nesaf. Wedi hynny, cychwynnodd yr haul mynd lawr ac felly roedd hi'n amser i fynd adref gan weld golygfa hardd ar y ffordd i lawr (fel sydd i'w weld yn y llun cyntaf o'r blog yma).

Cefais wythnos da gyda'r Parc Cenedlaethol yn ymweld a'r addurniadau ym Mhlas Tan y Bwlch ac roeddwn i'n hapus gyda'r nifer o goed a chafodd ei blannu yng Ngwern Gôf Isaf. Rwyf yn edrych ymlaen at sesiynau pellach o blannu coed cyn y Gwanwyn!







Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!