Chwilio am bathewod a Chlirio Eithin

 

Fi ag Eleri ar faes archaeolegol, Anafon

Ymddiheuriadau am y blogiau hwyr yn ddiweddar. Rwyf gyda nifer o waith cwrs coleg i'w wneud, yn enwedig ar ôl fy asesiad cyntaf ac rwyf wedi bod yn gweithio'n galed gyda gwirfoddolwyr ar ddigwyddiadau gwahanol er enghraifft casglu hadau a chlirio eithin ar faesydd archaeolegol - fe wnai esbonio mwy am hyn yn y blog yma!

Yn ystod yr wythnos yma cefais fy nghyfle gyntaf i weithio gyda chwynladdwyr. Roedd angen i un o'r caeau yn Henfaes ei chwistrellu gydag Glyphosate (yr cemegyn o fewn chwynladdwyr) oherwydd mae angen ei arddu yn nes yn y dyfodol. Y rheswm penderfynwyd ar ddefnyddio cemegion roedd dydym ni ddim eisiau'r chwyn tyfu yn ôl yn y dyfodol, yn enwedig os rydym yn penderfynu plannu coed ar y cae ac ehangu'r meithrinfa. Pan gweithio gyda chemegion fel Glyphosate, mae PPE yn hynod o bwysig er mwyn diogelu fy hun ac eraill. Yn yr achos yna, roedd y cae yng nghanol llwybrau i fywyd gwyllt fel ceffylau a cwningod ac felly roedd hefyd angen ystyried nhw wrth chwistrellu. Mi wnes i wisgo coveralls addas a menig Nitrile wrth gwneud y swydd yn ogystal â wisgo esgidiau addas gwrth-ddŵr. Welwch ar y dde fy ngwisg ffasiynol! Er mwyn sicrhau diogelwch yr anifeiliaid, sieciais bod y giatiau i gyrraedd y safle wedi'i gau a doedd y gwynt ddim yn rhy brwnt i achosi drifft. Unrhyw dro roedd y gwynt yn ormod, mi wnes i stopio chwistrellu. 
Ar ôl gweithio ar gyfer Caffi Carneddau yr wythnos cynt, mi wnes i gymeryd Dydd Mawrth i ffwrdd ond roeddwn i'n gynhyrfus ar gyfer mynd i Ddolgellau ar y Dydd Mercher. Es i a Gwion Evans i lawr i Goedwig Cerdded Torrent er mwyn edrych am dystiolaeth pathewod (Dormice). Y rheswm roedden ni yn chwilio ydy mae'r Parc Cenedlaethol mewn gyswllt gyda waith coed yno, ac os oes yna tystiolaeth o bathewod bydd hynny'n effeithio y gwaith torri coed sydd medru cael ei wneud yno. Mae pathewod yn tueddol o fwydo ar hadau cyll ac roedd yna dipyn o safleoedd yn y goedwig ble roedd coed cyll yn tyfu. 
Llun ohonaf o dan madarch wrth edrych am dystiolaeth pathewod

Roedd hi'n diddorol gweld y wahaniaeth rhwng tystiolaeth pathewod a llygod maes. Ar y hedyn, fedrwch gweld y cymhariaeth rhwng y ddau trwy gweld ble mae'r dannedd wedi taro'r cragen. Mae pathewod yn ymddangos heb marciau ar du fewn y twll, ac mae'r arwyneb ble maent yn cnoi yn llyfn. Mewn gymhariaeth, os llygoden maes bydd e, bydd marciau y dannedd yn ymddangos ar yr ochrau. Gwelwch llun isod o dystiolaeth pathew yn fwydo ar hadau Draenen Wen.

Tystiolaeth o Bathewod wedi fwydo ar Hadau Draenen Wen


Oherwydd y tystiolaeth a chafodd ei ddarganfod, roedd rhaid i weithrediadau'r torri coed cael ei newid a'i ailwerthuso. Ar y cyfan, roedd hi'n diwrnod hwyl a diddorol a wnes i fwynhau dysgu am ochrau eraill y Parc Cenedlaethol sydd yn gael effaith ar fywyd gwyllt, nid yn unig coed.

Ar y ffordd adref, roedd gan fi a Gwion cwpl o oriau o waith ar ôl ac felly penderfynais iddyn ni ymwled â choedwig Tan y Bwlch gan fod gwynt caled wedi bod yn ystod yr wythnos ac efallai bydde hi'n defnyddiol i ni wneud Adroddiad Storm. Aethom ni ar gwpl o lwybrau ac welom ni cwpl o ganghenion roedd wedi disgyn, ond dim byd drwg â oedd yn cyfyngu'r llwybr. Yn ogystal, welais nifer o fadarch diddorol a hardd yn gynnwys Madarch Cig Eidion a Madarch Llaeth (sydd i'w weld ar y llun dde).

Fel arfer, es i at Eleri yn Ogwen ar gyfer weddill yr wythnos. Roedd angen i ni baratoi at ddigwyddiad torri eithin gyda gwirfoddolwyr ar y Ddydd Sadwrn. Felly, es i, Eleri, Ned (o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Dan a Alff (o Gymdeithas Eryri) a Cathy (Archeolegydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ar daith i fyny Anafon at y maes. Cafwyd y safle ei glirio o eithin blwyddyn diwethaf ond roedd dal mwy i'w glirio ar y Cytiau Amgaeedig. Cefais hefyd golwg ar garneddau roedd uwch o'r maes, a benderfynwyd ble roedd yr offer am gael ei roi - er enghraifft y crât llosgi. Roedd hefyd asesiadau risg i'w ystyried a niferoedd. Mae clirio eithin yn bwysig ar faesydd archaeolegol oherwydd gyda chynyddiad mewn ansawdd technoleg, rydym yn gallu astudio'r safleodd yn well ac mae'r eithin yn tarfu ar y dealltwriaeth yma. 

Gwirfoddolwyr yn clirio eithin ar faes archaeolegol, Anafon

Roedd y diwrnod clirio eithin ar y Dydd Sadwrn yn hwylus a gwybodus iawn. Mynychwyd tua 10 o wirfoddolwyr, nifer ohonyn yn myfyrwyr ag eraill yn bobl lleol eisiau helpu. Cychwynom trwy esbonio'r safle a pwysigrwydd clirio maesydd archaeolegol yn ogystal ag amcanion Partneriaeth Tirwedd y Carneddau. Roedd y tîm yn awyddus i gychwyn a gyda llawer o ddiddordeb! Hefyd wnaethom ni rhoi arddangosiad o sut i'w wneud.

Roedd y tywydd yn anrhagweladwy, yn disgyn i fewn ag allan o wyntoedd caled a felly penderfynom ni i beidio llosgi'r eithin yn y crât ond ei gadw mewn ffôs ar ochr y safle nes bod rydym yn fynd yn ôl i'w losgi. Yn ystod amser cinio roedd cyfle i ni drafod gyda phawb ac ateb unrhyw cwestiynau roedd ganddyn nhw am y prosiect. Fe wnaeth Eleri dosbarthu pamffledi a posteri llawn gwybodaeth y prosiect a'r maes a wnaeth Cathy hefyd cychwyn sgyrsio am yr archeoleg sydd i'w weld. Roedd hyn yn gyfle da i mi hefyd siarad am y Digwyddiad Bwyeill Neolithig, gan fod doedd Cathy ddim ar y safle yno, ac wnes i cychwyn esbonio'r hanes yno.

Yn gyffredinol, heblaw am y gwynt, roedd hi'n diwrnod llwyddiannus iawn i'n gwirfoddolwyr a'r maes. Cafwyd yr Cytiau ei glirio yn hollol ac rydyn nawr yn hollol weladwy! Cefais llawer o hwyl ac rwyn diolchgar i waith caled y gwirfoddolwyr ac aelodau staff y Partneriaeth.

Fel anrheg, fe wnaethom ni weld Merlod y Carneddau yn y golygfa yn ogystal â 13 Frain Goesgoch! Wnes i negeseuo Jack Slattery o'r RSPB yn syth pan gyrhaeddais adref!

Diolch am ddarllen y flog yma, welai chi ar y nesaf!

Ceffylau ar gae Henfaes, Abergwyngregyn


Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!