Sophie ar Spotify
Coed Onnen yn barod i'w golli ei ddail, Meithrinfa Tan y Bwlch
Un o brif pwrpasau gweithio yr wythnos yma yw dosbarthu coed o'r meithrinfeydd at safleoedd plannu coed. Es i, Gwion a John Foster at ein coed ym meithrinfa Tan y Bwlch i ddewis y coed o'r maint gorau (o 70cm i 120cm) a gofynwyd gan y safle. Mi roedden nhw eisiau cymysgedd o rywogaethau a felly estynwyd Gwern, Onnen, Derw, Draenen Wen, Cyll, Ceirios Gwyllt a Bedw a'i orffen gyda 500 o goed!
Roedd angen i ni gosod a thrin y coed yn fanwl gywir gan sicrhau bod y rhywogaethau'n gywir. Ar rai rhywogaethau cefais trafferth oherwydd bod yr dail wedi disgyn gyda'r tymor, felly cymerais bach mwy o amser i astudio corff y goeden a'r buds i'w adnabod. Ar ôl dipyn o ymarfer, a phrofion byr gan John, roeddwn i'n hyderus adnabod popeth heb ddail.
Penderfynom i glymu'r coed mewn bwndeli o 25 er mwyn gwneud hi'n haws i ni dosbarthu i'r fan. Roedd hefyd angen i ni torri rhai o'r Gwern â oedd wedi gor-dyfu yn y polytunnel. Roedden nhw wedi tyfu'n anhygoel o dal (dros 7 ag 8 troedfedd),a felly roedd y cymhareb "root to shoot" yn wael. Fe dorrodd John y Gwern i'r maint delfrydol tra bod oni a Gwion yn ei glymu gyda chortyn i fewn i'w bwndeli. Oherwydd roedd y coed wedi cael ei dynnu o'r potiau, roedd angen ei bacio yn y fan gan ail-ddefnyddio hen bagiau pridd - fel sydd i'w weld yn y llun isod o gefn y fan.
Bwndeli o goed wedi'i bacio yng nghefn y fan yn barod i'w gael ei ddosbarthu
Yn anweladwy o dan y coed, roedd angen i ni bacio 500 o stecs plannu hefyd yn ogystal â warchodwyr coed. Roedd Nemo druan rhy fach i ddosbarthu popeth felly penderfynodd Gwion i ddilyn tu ôl i mi gyda'r gweddill.
Aethom ni a'r ordor i Llanaelhaearn ble roedden nhw'n bwriadu creu cerddfa cymunedol a blannu'r coed yr penwythnos hwnnw. Esboniais bod os roedd cynlluniadau yn newid, roedd rhaid gadael y coed i fewn i'r bagiau pridd a'i ddyfrio nes bod nhw'n cael ei blannu. Yn ogystal a'i adael o dan cysgod ag i ffwrdd o unrhyw anifeiliaid.
Fi a Gwion a'r ôl torri'r coeden Nadolig a ddewiswyd i'r swyddfa, Meithrinfa Tan y Bwlch
Welwch yn y llun uchod yr coeden a ddewiswyd i'r swyddfa - yn glir yn 7 troedfedd i gymharu gyda fi!
Roedd gen i un tasg diddorol i wneud er mwyn gorffen yr wythnos ac roedd hyn yn gynnwys ymuno gyda Beca er mwyn cael sgwrs i Bodlediad Eryri! Rwyf wedi cael profad bryd hynny gyda sgwrsio ar radio ond roedd rhywbeth mwy ymlaciol a llai ffurfiol gyda phodlediad. Roedd hefyd y cyfle i mi stopio siarad os roeddwn i angen ac ail-gychwyn fy ateb (heb gecian y tro yma).
Trafodais ar y podlediad beth mae'r prentisiaeth yn golygu i mi a sut rwyf wedi ffeindio'r gwahanol mathau o waith a chyfleoedd rwyf wedi derbyn. Roeddwn i fedru mynd on-a-on am bobeth rwyf wedi bod yn gwneud felly roedd hi'n anodd i mi grynhoi.
Os rydych gyda'r diddordeb i wrando arnai dilynwch y linc isod:
Neu mae'r sgwrs ar gael ar Bodlediad Eryri ar Spotify!
Diolch am ddarllen, tan tro nesaf!
Comments
Post a Comment