Plannu Coed ac arsylwi Frân Goesgoch

 

Plas Tan y Bwlch, Maentwrog


Rydym yn cychwyn ein wythnos ym Maentwrog yn ein hoff safle - fedrwch chi dyfaru? Plas Tan y Bwlch wrth gwrs. Gofynwyd y Plas am goed Nadolig er mwyn addurno'r safle ar gyfer sioe cyfrinachol i ddod! Mae coed Nadolig yn tueddol o fod yn ffinydwydden neu pyrwydden ac mae nifer wedi ei blannu o amgylch gerddi y plas yn ogystal â rhai wedi'i blannu yn ein meithrinfa coed felly aethom ni i chwilio. Gofynwyd yn blaenorol eu bod yn edrych am goed o gwmpas 8 troedfedd.

Wrth chwilio, ddoethom ni ar draws nifer o blanhigion diddorol a chafodd ei blannu gan y Plas pan adeiladwyd yn 1789. Roedd yr teulu Oakeley yn byw yno o'r flwyddyn hwnnw tan 1961 wrth iddyn nhw berchen masnach llechi yn chwarel Blaenau Ffestiniog. Mi roedden nhw'n gyfoethog iawn wrth gwrs ac felly plannodd y gerddwyr rhywogaethau o bob math (anfrodorol wrth gwrs). Mae'r rhywogaethau â ymfudodd dal i'w weld yn y Plas heddiw.


Un o'r rhywogaethau diddorol wnaeth aros gyda fi roedd coeden mefys, Arbutus unedo. Doeddwn i erioed weid gweld coeden mefys o'r blaen ac roedd hi'n hynod o ddiddorol a hardd i'w weld yng ngerddi'r Plas. 

Erbyn diwedd yr wythnos roedd ganddyn ni ymwelwyr gan cwmni Finastra ym Mangor ac roedden nhw'n dod atyn ni i blannu coed mewn caeau gyferbyn y Carneddau. Fe ddysgais am y tro cyntaf sut i blannu coed gyda caets â physt o'i gwmpas felly cyn dysgu rhywun arall i'w wneud, roedd rhaid i mi ddysgu fy hun!

Fi ag Eleri yn dysgu sut i blannu coed gan ddefnyddio pŷst a chaets, Blaen y Nant

Roedd hi'n anoddach na beth feddyliais i roi'r pŷst i fewn i'r llawr oherwydd ei fod yn dibynadwy ar ansawdd pridd - ac roedd llawer o gerrig lle roedden ni'n ymarfer! Ar ôl dipyn mwy o ymarfer, cychwynais fy hyder cynyddu ac roeddwn i'n fwy cyffyrddus i ddefnyddio'r post-rammer

Dyma'r proses o blannu'r coed gyda'r pŷst a'r caets:

  • Cychwyn trwy defnyddio'r polyn fetal i greu 3 twll o fewn cylchedd maint yr caets - mae'n haws weithiau i fesuro a chreu cylch allan o weiren fel dywys. 
  • Ar ôl gwneud y 3 twll, mae angen cychwyn ar y pŷst. Mae'r proses yma yn fwy diogel os mae ddau berson yn helpu eu gilydd. Gan ddefnyddio'r post-rammer mae rhaid codi'r offer drost y postyn a'i tharo yn ei le o fewn y twll - welwch fi ag Eleri yn gwneud hyn yn y llun uchod. Rhaid i'r postyn fod yn lefel a'i fesuro tua taldra eich pennau. Ailadrodd hyn gyda'r ddau postyn arall yn y ddau twll arall.
  • Pan mae'r pŷst i gyd mewn lle, rhaid claddu twll yng nghanol a phlannu'r coeden a ddewiswyd. Mae'n opsiwn hefyd i osod dipyn o lystyfiant o amgylch y coeden i roi mwy o faetholion iddo.
  • Wedyn yw'r caets. Mae angen ddau person (o leiaf!) i osod y caets o amgylch y pŷst oherwydd mae angen iddo fod yn dyn i osgoi iddo dad-glymu- yn enwedig os oes yna anifeiliaid fel gwartheg yn y cae. Pan mae'r caets digon tyn o amgylch y pŷst, clymwch y metal rhydd yn ôl at eu gilydd nes bod hi'n digon ddiogel i adael fynd.
  • Y cam olaf yw gosod y styffylau. Mae angen defnyddio mwrthwl i 3 stwffwl ar gyfer pob postyn - ar y top, canol a'r gwaelod. 
  • Ddylai'r proses yma cymeryd o 5 i 10 munud ar gyfer pob coeden.


Gwirfoddolwyr a fi (ar y dde) yn plannu coed, Gwern Gôf Isaf

Yn ystod y sesiwn plannu coed gyda Finasta, mi wnaethom ni gwneud arddangosiad o be ddysgwn yn ein hyfforddiant a fe wnaeth pawb dysgu sut i wneud y pŷst a'r caets yn sydyn iawn. Penderfynom i blannu'r coed ar dir fferm Gwern Gôf Isaf, ble rydym mewn cytundeb gyda'r ffermwyr i ddefnyddio'r tir yn fwy gynaliadwy, tra plannu coed ar gyfer Partneriaeth Tirwedd y Carneddau hefyd. Fel welwch yn y llun uchod, roedd y pyst yn mynd i fyny'n sydyn a cyn bo hir fe wnaethom ni plannu tua 30 o goed mewn cwpl o oriau. 

Arsylwi Frân Goesgoch

Roedd yr wythnos gwaith bron wedi dod i ben ond cefais cynnig i arsylwi Frân Goesgoch gyda Jack Slattery o'r RSPB i fyny yn y Carneddau uwchben Llanfairfechan a Chwarel Penmaenmawr. Gwelwch ar y llun ar y chwith Frân Goesgoch ar gerrig yn y Chwarel - yn amlwg tynnais y llun yma trwy ysbienddrych. Mwynhais yr taith gyda Jack oherwydd roedd hi'n gyfle i mi weld y Frân Goesgoch yn agosach na beth rwyf wedi o'r blaen - diolch i cit Jack roedd hefyd cyfle i mi weld ymddygiadau diddorol fel pâr yn disgwyl a chanu amdan eu gilydd yn ogystal â medru darlen a gweld y tagiau ar eu fferau.












Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!