Ymweliad Meithrinfa Prees Heath

 

Meithrinfa Prees Heath, Whitchurch, Lloegr

Teimlais dysgu llawer yr wythnos yma am gynhyrchiad a chyflenwad coed i ardaloedd gwahanol y Parc Cenedlaethol. Rwyf wedi dysgu llawer am dyfu ac edrych ar ôl ein coed yn ystod fy misoedd cyntaf o'r swydd, ond nawr rydym yn cychwyn yr misoedd plannu a chyflenwi a thrwy hynny mae rhaid i mi ddysgu ar sut rydym yn prynu'r coed nad ydym yn cynhyrchu ein hunain a sut rydym yn dosbarthu rheini o amgylch y Parc.

Dechreuais yr wythnos yma yn gorffen plannu weddill ein hadau yn ein Meithrinfa Tan y Bwlch. Roedd dipyn o fês a chastanwydden bêr, Castanea sativa, ar ôl iddyn ni blannu ac ar ôl gweithio am dipyn roedd y meinciau yn llawn o'r diwedd - er bod dal dipyn o hadau gennym ni ar ôl. 

Yn dilyn glaw a wynt brwnt dros y benwythnos, roedd angen i ni cael golwg gydag Rhydian Roberts, fy rheolwr, ar goeden Ywen a ddisgynnodd uwchben un o'r llwybrau cyhoeddus ym Mhlas Tan y Bwlch. Roedd y coeden wedi'i dorri a'i ddisgyn ar ben goeden Onnen ac roedd nifer o nodweddion pwysau a iechyd a diogelwch angen cael ei ystyried cyn iddyn ni gychwyn ar ei dorri i lawr. 

Cychwynais trwy gau'r llwybr o'r ddau ochr gydag arwyddion ac wedyn aethom ni ymlaen at ddelio gyda'r canghenion. Roedd y goeden wedi'i lanio ar Ywen arall sydd yn golygu roedd angen i ni greu llwybr iddo cael disgyn mewn rheolaeth addas o dan. Roedd angen hefyd i ni ystyried y lein trên o dan y llwybr cyhoeddus gan fod nad ydym ni eisiau unrhyw beth ei ddisgyn arni. Cychwynom ni ddelio gyda phîg y goeden trwy defnyddio llif-polyn a llif-law gydag ystynwr. Fe lapiodd Rhydian rhaff o gwmpas y pîg a'i dynnu mewn cyfeiriad cyferbyn i'r lein trên ar ôl iddo disgyn. Ar ôl iddyn ni gael y pîg allan o'r ffordd, roedd amser i ni asesu ble roedd weddill y coeden am ddisgyn. 

Roedd angen ystyried y goeden Onnen a roedd yn dal rhan o'r goeden Ywen i fyny ac roedden ni angen gweithio mewn ffordd roedd yn creu'r cyn lleiad o niwed a sy'n bosib. Yn lwcus, doedd y coeden Onnen ddim yn fawr iawn felly roedd hi'n weddol hawdd i'w dorri. Fe dorrodd Rhydian y goeden i lawr gyda llif-gadwyn er mwyn lleihau'r bwysedd roedd arni o'r goeden Ywen. Byddaf yn dysgu mwy am y ffordd torrodd y goeden yn ystod fy nghwrs Llif-Gadwyn yn fuan. 

Yn olaf, roeddwn ni angen greu llwybr addas i'r goeden disgyn yn derfynol i'r llawr. Yn syfrdanol, fe ddaeth ddau berson a'u ci cerdded tu ôl iddyn ni eisiau croesi'r llwybr. Yn lwcus, sylweddolais cyn iddyn nhw dorri unrhyw mwy o ganghenion a fe stopiodd ni'r gwaith nes iddyn nhw basio. Mae hyn yn ddisgwyliedig weithiau hyd yn oed ar ôl rhoi arwyddion i fyny, felly mae rhaid derbyn y risg o hyd bod fydd yna bosibilrwydd o aelodau'r cyhoedd pasio wrth iddyn ni weithio. Ar ôl iddyn nhw basio fe gariodd ni ymlaen i dorri'r ganghenion olaf roedd y goeden yn gorwedd ar a chyn bo hir disgynnodd fel welwch yn y llun isod.

Coeden Ywen ar ôl ddisgyn ar lwybr cyhoeddus, Tan y Bwlch

Yr unig peth roedd angen ei wneud roedd torri gweddill y canghenion o ffordd y llwybr a'i adael iddyn nhw bydru yn naturiol.

Roeddwn i'n edrych ymlaen tuag at y diwrnod nesaf oherwydd roeddwn ni yn fynd am daith o amgylch Meithrinfa Prees Heath yn Whitchurch, Lloegr. Mae'r Parc Cenedlaethol Eryri yn prynnu'r coed gan y meithrinfa yma nes ein bod yn medru cyflenwi'r niferoedd uchel ein hunain. Es i a Gwion ar y taith er mwyn cael dysgu ar y proses o brynu coed gan gyflenwr ac hefyd ymweld ag meithrinfa roedd bach mwy nag un meicro ni...

David Gwillam yw berchennwr y meithrinfa ac ar ôl cyrraedd fe chafodd ni croeso a taith hardd o gwmpas y meithrinfa. Roedd angen i ni drafod pa fath o goed rydym ni angen yn ein ordor blwyddyn yma ac felly aethom ni â samplau adref gyda ni.

Fi a Gwion ym meithrinfa Prees Heath yn ddal ein samplau coed

Roedd hi'n diddorol i mi weld sut roedd plannu a chynnal a chadw ar dirwedd mor fawr yn gweithio i gymharu gyda ein meithrinfa ni adref. Roedd hi'n ddigon anodd iddyn ni ddal i fyny gyda chwynnu a dyfrio yn ystod yr Hâf boeth yn ein meithrinfa ac ar y raddfa meithrinfa yma mae'n tueddol i fod llawer anoddach. Fel ganlyniad, soniodd David bod rhai o'r stoc wedi'i fethu blwyddyn yma oherwydd diffyg staff a ffynhonellau dyfrio. Mae nifer o staff yn weithio yna yn gynnwys gwirfoddolwyr ond dywed bod dal angen fwy o help weithiau gan fod niferoedd wedi disgyn ar ôl Covid-19. Wedi dweud hynny, roedd y meithrinfa hynod o drawiadol. 

Gadawodd ni'r safle gyda ddegau o goed o rywogaethau gwahanol megis Derw, Criafolen, Draenen Wen, Bedwen ayyb yn ogystal â mwy o wybod o sut mae meithrinfa ar raddfa enfawr yn gweithio. Rwy'n edrych ymlaen at gyd-weithio ym mhellach gyda'r meithrinfa yn y dyfodol.

Roedd hi'n nesu tuag at ddiwedd yr wythnos a golygai hyn fod hi'n amser i mi fynd at yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gan fod hi'n dymor plannu coed ar hyd nifer o sefydliadau ar hyn o bryd, roedd hi'n amser i mi gychwyn dysgu sut i'w blannu mewn ffyrdd gwahanol. Wythnos yma, cychwynais ar sut i blannu coed gyda chaets o'i gwmpas er mwyn atal anifeiliaid rhag ddinistro'r goeden. Bydd rhaid i mi ddysgu gwirfoddolwyr sut i wneud hyn ym mhellach ac felly mae'n bwysig i mi wybod sut i'w wneud.

Ar ôl arddangosiad ar sut i'w wneud gan Dewi Roberts cefais i ag Eleri go arni.

Cychwynom gyda grid o gylchedd y caets a'i rhoi 3 twll i fewn gan ddefnyddio polyn ar ochrau'r grid. Yn dilyn hynny, tynnodd ni'r grid a mynd ati i osod y 3 postyn. Mae angen defnyddio offeryn benodol i sicrhau bod y pŷst wedi'i osod yn gywir (Post Rammer) fel sydd i'w weld yn goch yn y llun isod. Mae hefyd angen i'r pŷst fod ei arwyneb yn wynebu y tu allan er mwyn gosod y styffylau nes ymlaen.

Fi ag Eleri yn defnyddio'r Post Rammer i osod y pŷst caets

Wrth i'r pŷst cael ei osod roedd amser i blannu'r coeden yn y canol. Penderfynais ar dderwen ar gyfer fy caets gyntaf a ddewisiais un o'r Meithrinfa Blaen y Nant. 

Coeden dderwen a'i blannwyd yn fy nghaets cyntaf, Blaen y Nant

Plannu'r coeden roedd y darn hawdd, roedd hi nawr yn amser iddyn ni osod y caets - a oedd yn gymeryd tua 4 person ar y tro cyntaf. Mae angen i'r caets fod yn dyn wrth arwynebau'r pŷst er mwyn cael ei styffylu nes ymlaen felly roedd hi'n anodd gwneud gydag dim ond ddwy ohonym. Ddoeth Geth a Dewi i'm helpu nes bo ni wedi arfer. Ar ôl i'r caets cael ei osod digon tyn, mae angen plygu'r weiren rhydd yn ôl ar ei hun er mwyn cadw'r lle tan bod y styffylau i fewn.

Roedd 3 stwffwl ar gyfer pob bostyn angen ei osod ar y top, canol a'r gwaelod ac felly roedd y caets wedi'i gwblhau! Cymerodd bach hirach na ddylid ond doeddwn ni ddim yn ddrwg am y tro gyntaf! Ar ôl dipyn o ymarfer rwy'n siwr o fod yn barod ar gyfer gwirfoddolwyr wythnos nesaf.

Roedd un tasg arall angen cael ei gwblhau yn ystod fy amser gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a golygai hynny i blannu'r hadau a chasglwyd ym Moelyci gydag ymwelwyr o Wcrain a Syria o'r wythnos cynt.

Mae llygod wedi bod yn broblem i'n hadau ym Mlaen y Nant yn diweddar gan ein bod dal i ddisgwyl am ein sied potio ac felly roedd angen i ni feddwl am yr opsiynau sydd gennym ni i osgoi hynny. Penderfynom i lapio'r cynhwysydd gyda'r hadau wedi'i blannu mewn weiren ieir a mesh metal ychwanegol. Gwelwch isod am y "carchar" hadau!

Eleri yn lapio'r hadau mewn weiren ieir, Blaen y Nant

Mae'r hadau yma yn cael ei gadw tu allan felly rwyf yn gobeithio bydden nhw dal yna erbyn i mi ddod yn ôl wythnos nesaf!

Diolch am ddarllen fy mlog, welai chi wythnos nesaf pan rydym yn cychwyn plannu coed gyda gwirfoddolwyr.

Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!