Ymwelwyr o Wcrain a Syria yn hel hadau ym Moelyci

 

Llwybr Mawddach, Abergwynant, Dolgellau

Cychwynom yr wythnos yma yn Nolgellau, ble aethom ni (John Foster, Gwion a fy hun) ymweld â'r coedwig Abergwynant, sydd wedi'i berchen gan y Parc Cenedlaethol Eryri wedi hyn. Pwrpas yr ymweliad roedd dangos bod y mathau o goedlannau yn newid o amgylch y Parc Cenedlaethol a mae ffactorau eraill i ystyried os rydym yn gweithio ynddyn neu wrth eu hymyl. Er enghraifft, mae'r Coedwig Abergwynant wrth ymyl Llwybr Mawddach, sydd yn llwybr hardd, cyhoeddus sydd yn estynnu am dua 9 filltir ar hyd Afon Mawddach. Mae'r llwybr o hyd yn brysur oherwydd y golygfeydd hardd a'r llwybr fflat hawdd sydd yn hygyrch i bawb ac felly mae rhaid ystyried hyn os rydym yn gweithio yno. Roedd angen i ni trwsio un o'r giatiau ar yr ymweliad yn ogystal â cherdded i fyny dipyn o'r llwybrau i siecio os oes angen gwaith cynnal a chadw ei wneud ar y llystyfiant. 

Wrth i ni chwilio yn nhrwyadl trwy'r coedwig, fe ddawn ni ar draws nodwedd arbennig (wedi bron ei guddio). Welwch y nodwedd ar y llun  ar y dde. Odyn Calch (Lime Kiln) yw'r nodwedd a chafodd ei ddefnyddio i droi Calsiwm Carbonad i fewn i Galsiwm Ocsid. Buasai'r waelod yn cael ei danio o dan y pydew (y darn grwn ar y llun) a bydd y cynnwys yn ocsideiddio gyda'r gwres. 
Ar y Dydd Mawrth, welom ni coedlan arall wedi'i berchen gan y Parc Cenedlaethol yn Nhrawsfynydd sydd ar hen faes ymarfer a hyfforddiant yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r nodweddion rhyfel dal ei fodoli ar y safle ac rydych yn medru teimlo'r concrit o dan yr arwyneb i fle roedden nhw'n hyfforddi! Diddorol! Roedd y gwybodaeth yma yn hollol newydd i mi ond mai'n arbennig i weld bod hanes reit o dan ein traed - yn enwedig mewn coedlannau a chaeau ble nad ydynt yn amlwg yn y llystyfiant. 

Rydym yn barhau i blannu ein hadau a chasglwyd ar ein diwrnodau gwirfoddoli ac mae gennym ni llwyth o hadau ar ôl i'w blannu. Ar y ffordd adref o Drawsfynydd, aethom ni i Fala er mwyn casglu 19 bag o gompost fel bod rydym yn medru plannu ein hadau i gyd - os oes gennym ni ddigon o le!

Mae llygod yn broblem wrth blannu hadau a mae rhaid sicrhau eu bod mewn lle ble na fydd llygod yn medru ei ddringo a'i fwyta, yn ogystal a fod yn lle ble fydden nhw'n cael ei ddyfrio gan y system dyfrhau. Fel rheol rydym yn rhoi ein hadau wedi'i blannu ar ochrau'r polytunnel heb ddarnau o bren ar yr ochrau fel bod llygod methu cyrraedd - ond roedd rheini yn llawn. Felly, roedd rhaid i ni symud rhai o'r coed ifanc roedd ar y meinciau hwnnw i fewn i'r polytunnel arall fel bod gennym ni ddigon o le i blannu fwy. Fedrwch chi byth cael ormod o hadau wrth gwrs!

Yn syfrdanol, mae llond llaw o ein hadau mês dderwen di-goes, Quercus petraea, wedi'i blaguro yn barod. Fel arfer (yn ôl profiad John Foster), mae'r hadau yn blaguro tua mis Chwefror felly mae'n nhw'n 3 mis yn gynnar! Credaf mai'r tymhorau yn newid wrth i'r flynyddoedd mynd ymlaen ac yn enwedig oherwydd rydym wedi gael Hâf mor boeth mae'r hadau wedi dioddef fel ganlyniad.

Ar ôl diwrnod o waith cwrs (ac ysgrifennu blogiau fel hyn) roedd hi'n amser i mi fynd at Eleri gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd gennym ni sesiwn wedi'i gynllunio i hel hadau gydag ymwelwyr o Wcrain a Syria ar Ddydd Gwener felly cychwynom ni ar y gwaith paratoi. Roedd hynny'n golygu cael yr offer i gyd at eu gilydd a darllen/addasu ein asesiadau risg. Fe wnaethom ni casglu ein bagiau papur ar gyfer yr hadau a gychwynom ar lamineiddio ein bosteri adnabod y coed (a pha hadau sydd yn mynd gyda nhw). Hefyd, gwariasom y prynhawn yn tacluso a threfnu yr ysgubor offer yn barod at ein danfoniad sied potio mis nesaf.

Digwyddiad Hel Hadau gydag ymwelwyr o Wrain a Syria

Ymwelwyr a staff yn casglu hadau ym Moelyci, Tregarth

Roedd Dydd Gwener yn brofiad arbennig iddyn ni fel staff y Parc ac ar gyfer ein ymwelwyr o gwledydd mewn argyfwng. Cafodd nhw'r gyfle i fynd am dro trwy coedlan bychain ym Moelyci, Tregarth er mwyn dysgu ac adnabod yr coed sydd gennym ni yn y gwlad yma, tra casglu hadau iddyn ni blannu ar yr un pryd. Mi roedd y brofiad yn anhygoel i mi hefyd wrth i mi ddysgu am eu straeon a traddodiadau nhw ynglŷn â chadwraeth a natur a chefais gwerthfawrogiad o'u cyfraniad at wlad sydd ddim yn gartref iddyn nhw. 

Mae'n annirnadwy beth mae nhw'n mynd trwy felly os rydym ni fel aelodau'r cyhoedd y gwlad lloches yn medru gwneud rhywbeth i helpu eu hapusrwydd rydym ni am drio ein gorau i wneud. Wnes i, Eleri ac aelod staff ymgysylltu gwirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol Eryri, Etta Trumper, dysgu'r ymwelwyr a'i cynorthwyydd am sut rydym yn prosesu'r hadau er mwyn ei wneud yn barod i'w blannu. Esboniais am y gwaith rydym yn gwneud yn ein meithrynfeydd coed ac beth ydy fy mwriad gyda'r hadau roedden nhw wedi casglu ar y diwrnod hwnnw. 

Gorffennom y diwrnod gyda ymweliad hardd o'r llwybrau ym Moelyci tra gweld asynnod y fferm yno hefyd - fel welwch isod. 
Asyn Moelyci

Roedd hi'n ddiwrnod prydferth i orffen yr wythnos gyda phrofiadau a ffrindiau newydd. Rwy'n gobeithio bod yr ymwelwyr wedi cael diwrnod da gyda ni yn hel hadau ac rwyf yn gwerthfawrogi yr holl rwyf wedi dysgu ganddyn nhw hefyd.

Tan tro nesaf - diolch am ddarllen!








Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!