Hyfforddiant LiDAR

 

Dyluniad LiDAR o Garreg Fawr, Llanfairfechan


Mewn wythnos gwaith eithaf distaw, roedd un digwyddiad ar y Dydd Mercher yn diddorol iawn. Cefais y cyfle i hyfforddi ar LiDAR, sef "Light Detection and Ranging". Pwrpas LiDAR yw creu modelau 3D o fapiau, gwrthrychau ac amgylcheddau. Maent yn gweithredu trwy defnyddio technoleg laser i gasglu mesuriadau arwynebau. Mae filoedd o fesuriadau yn cael ei gymeryd gyda'r laser o gwrthrychu'r golau sydd wedyn yn cael ei yrru yn ôl at y derbynnedd system a'r amser hedfan i ddatblygu map pellter o'r gwrthrychau ar yr arwyneb. 

Felly beth yw LiDAR?
  • Maent yn creu model 3D fanwl gywir o arwyneb y ddaear
  • Yn gallu "gweld-trwy" llystyfiant
  • Yn dosbarthu data uchder fanwl gywir
  • Yn creu llun fanwl o archaeoleg yr arwyneb - hyd yn oed sylweddau sydd ddim i'w weld gyda llygaid
Mae LiDAR yn ychwanegu tuag at safleoedd o diddordeb fel ardaloedd archaeolegol trwy ychwanegu at y gwybodaeth sydd barod ar gael ac efallai cynyddu'r graddau ar yr hyn sydd yn hysbys yn barod. Ar y diwrnod hyfforddi, roedden ni'n edrych ar ardaloedd uwchben Llanllechid, Bethesda am dystiolaeth pellach archaeoleg. Mae nifer o gytiau caeedig a hanes gwareiddiad wedi'i ddarganfod yno'n barod ond gan ddefnyddio technoleg LiDAR yno mae archeolegwyr wedi darganfod llawer mwy na beth roedden nhw'n feddwl roedd yna. 

Beth roeddwn i'n edrych am?

1. Nodweddion Topograffaidd = fel strwythrau, patrymau, marciau cysgodau sydd yn anarferol.
2. Dangosyddion Dirprwyol = megis marciau crop/pridd, strwythrau o dan yr arwyneb.


Enghraifft o sut mae LiDAR yn edrych allan ar y maes gan ddangos chwarel yn Llanllechid i'w weld o dan y system a'i gymharu gyda'r sefydliad byw yn y cefndir


Felly sut rydym ni yn gwybod bod yna rhywbeth o dan yr arwyneb? Dywed John Roberts, archeolegydd y Parc Cenedlaethol, bod fedrith strwythrau o dan yr arwyneb creu fantais i'r llystyfiant uwch ei ben ac dyna sut maen nhw'n gwybod ble i edrych. Fedrith y pridd sydd o gwmpas y strwythau hwnnw cynnywys fwynau fel Nitrogen sydd yn ymddwyn fel "boost" i'r planhigion uwchben. Mae hyn wedi cael ei brofi gan ddefnyddio LiDAR ble mae cropiau gyda llawer o dyfiant arnyn nhw i gymharu ag eraill wedi'i ddangos gyda tystiolaeth archeolegol o'u dan. 

Weithiau, tydy LiDAR ddim yn cynnwys y llun llawn - "model" yw e wrth gwrs, ac felly mae angen unai gwneud newidiadau ar sut mae'r system yn derbyn y data neu gwneud arsylwadau fyw ar y maes.
Os mae'r LiDAR wedi'i osod ar bwyntiau 1metr er enghraifft, mae'n bosib rydym yn methu beth sydd yn digwydd rhwng y metrau yna -- ydych chi hefo fi? Gwelwch isod:

<>.....................<>.....................<>.....................<>.....................<>.....................<>

Dychmygwch hwn sydd i'w weld pob 1metr o'r data. Gyda'r <> yn gynrychioli pwyntiau'r laser a'r ... yn gynrychioli'r tirwedd.

Nawr edrychwch beth sydd yn bosib gyda data oddi ar 0.5metr:

<>............<>..         ....<>............<>............. <>   ..........<>............<>............
                        .     .                                       .      .
                         . .                                           . ...

Ymddiheuriadau am y diagram eithaf amwys ond mae dim ond gymaint fedrwch chi egluro trwy blog. Fel "welwch" mae yna bosibilrwydd o nodweddion cael ei fethu os rydych yn setio'r laser yn rhy eang. Yn benodol, mae ymweliadau'r maes yn gael ei flaenoriaethu yn dilyn y data amlwg. 

Mae rhai bethau yn medru cael effaith ar sut mae'r data yn casglu gwybodaeth hefyd. Er enghraifft fedrith yr tymor cael effaith. Dywed yr arbenigwyr bod Gaeaf yw'r tymor goraf i gasglu data LiDAR gan fod y planhigion yn farw yn ôl a bod nifer o dirwedd amaethyddiaeth yn tynnu'r llystyfiant yn ei hystod. Ond pan mae Gaeaf yn dod, mae'r glaw hefyd. Nid yw dŵr yn adlewyrchu ac felly bydd hynny'n effeithio ar ansawdd yr data hefyd. Yn olaf, fedrith y ffordd mae'r data yn edrych ar y system cael ei effeithio gan cysgod y bryniau. Wrth newid sefyllfa'r haul ar y portal mae'n bosib bydd un peth yn edrych fel rhywbeth arall - er enghraifft bryniau yn cael ei gymysgu gyda ffosydd. Ddylai'r golau fod yn perpendiciwlar i'r nodwedd er mwyn ei gofnodi'r wir. Mi fedrith LiDAR fod yn gelf go iawn!

Yn ystod y diwrnod hyfforddi fe aethom ni allan ar y maes archeolegol yn Llanllechid er mwyn gweld os roedden ni medru darganfod yr data a welson ar y system (fel welwch yn y llun uchod o Chwarel Llanllechid). Mi roedd hi'n diddorol iawn cael gweld ein gweledigaethau dod yn fyw wrth iddyn ni ddarganfod ffosydd gyda phwrpasau amaethyddol a chytiau caeedig.

Yn anffodus, doedd pop fanyldeb o LiDAR ddim yn bosib ar ôl un diwrnod o hyfforddiant ond rwy'n edrych ymlaen tuag at y ddogfennau a'r system fod ar gael i'r cyhoedd (gobeithio yn y flwyddyn newydd) er mwyn i mi parhau i ddysgu mwy amdano.

Blog bach i chi heddiw yn anffodus ond rwy'n edrych ymlaen at ysgrifennu'r nesaf! Diolch!

Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!