Posts

Ta Ta Prentisiaeth :(

Image
  Y ddwy prentis Carneddau, fy hun ac Eleri Turner (chwith) Annwyl darllenwyr, Fedrai ddim coelio bod fy nghyfnod fel Prentis ar gyfer Partneriaeth Tirwedd y Carneddau wedi dod i ben. Mae hi wedi bod yn flwyddyn o waith ANHYGOEL a fedrwn i ddim yn dymuno dim newidiadau. I roi bach o gyd-destun, mi roedd y swydd am gyfnod o flwyddyn felly do rwyf wedi gorffen braidd yn gynharach. Y rhesymau yw: 1. Roeddwn i wedi cwblhau rhan fwyaf o fy ngwaith gyda Choleg Cambria cyn ddiwedd yr flwyddyn 2. Ceisiais a derbynais swydd foddhaol gyda'r Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau Tan ddiwedd y cynllun (sef Rhagfyr 2025) fyddai dal i barhau i weithio ar y Cynllun Carneddau ond yn lle fel prentis, rydwyf nawr yn Swyddog Ymgysylltu Cymunedol - i Gogledd y Carneddau felly ar hyd yr arfordir lawr Dyffryn Conwy. Mae hyn yn golygu byddai nawr yn gyfrifol am gysylltu cymunedau'r Carneddau gyda'r ardal a'r gwaith sydd yn mynd ymlaen yn ogystal â chreu perthnasoedd yr cymunedau yma gyda&#

LLUNIAU DIWEDDAR!

Image
  Cyfeillion, ymddiheuriadau dwys fy mod i heb diweddaru fy mlog ers gwpl o fisoedd - mae gen i bethau cyffroes i ddod ond wedi bod mor brysur yn y cyfamser trwy gorffen plannu filoedd o goed, cynnal digwyddiadau gwirfoddol ac ella gael swydd newydd... Dyma gyfres o luniau er mwyn cael syniad o'r math o bethau rwyf wedi bod yn brysur arni - manylion i ddod! Cyfweliadau Lleisiau'r Carneddau ym Mhenmaenmawr Plannu Coed gyda Ysgol Dyffryn Enfys Cyd-weithio gyda Chymdeithas Eryri yn plannu coed ym Mala Cymeryd rhan mewn Noson Awyr Dywyll, gyda Dani Robertson Criw Sŵoleg Prifysgol Bangor yn dod i blannu coed gyda'n ni ar Fferm Blaen y Nant Mwy o goed i'w blannu ar Fferm Pant y Neuadd, Bala Hadau Castanwydden Bêr a Meithrinfa Coed Blaen y Nant wedi'i sefydlu! Cwblhau prosiect plannu coed yn Nolgellau Taith i Lyn Anafon gyda Ysgol Tryfan Trip i Gastell Penrhyn gyda Ysgol Llanllechid Ymweliad a Darlitho i fyfyrwyr Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor Cynnal dig archeolegol i fyfyrwy

Torri Eithin ar Garnedd y Saeson

Image
Llun ohonaf ar Garnedd y Saeson ar ddigwyddiad torri eithin Ar yr 20fed o Ionawr roedd yna gyfle arall i ni gyd-weithio gyda sefydliadau eraill y Partneriaeth Tirwedd y Carneddau er mwyn clirio eithin oddi ar maes archeolegol y Carneddau. Roeddwn ni wedi bod yn gweithio ar maes Anafon, Abergwyngregyn eleni ond roedd y safle yna wedi'i orffen felly symudodd y grŵpiau ymlaen at safle bach yn uwch ar Garnedd y Saeson. Mae yna carneddau wedi'i guddio ar fynydd Carnedd y Saeson, hence yr enw , yn yr eithin ac mae'n bwysig rydym yn darganfod a chlirio nhw rhag ofn iddyn nhw cael ei ddifetha a'i anghofio. Mae clirio safleoedd archeoleg yn bwysig oherwydd mae'n galluogi ni cael dealltwriaeth mwy eang o hanes yr ardal yn ogystal â chreu ymdrechion i'w goroesiad. Mae mynyddoedd Cymru llawn hanes sydd yn mynd yn ôl at miloedd o flynyddoedd a buasai'n bechod i ni parhau ei golli. Archeolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Kathy Laws, yn trafod archeoleg y safle Roedd

Archebion Coed

Image
  Fi gyda archeb o goed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Gwariais llawer o amser wythnos yma yn trefnu a chladdu ordor coed yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Parc Cenedlaethol. Mae filoedd o goed wedi cael eu harchebu iddyn ni fel rhan o gwblhau targedau plannu coed i'r Partneriaeth Tirwedd y Carneddau. Y blwyddyn yma yn unig, mae angen i tua 15,000 o goed cael ei blannu rhyngddyn ni.  Welwch yn y llun uchod un ordor o goed (4,000 i fod yn benodol) a chafodd ei roi o flaen adeilad Ogwen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn gynnwys yn yr archeb roedd: Draenen Wen, Gwern, Derw, Criafolen, Coed Afalau Surion, Cwngoed a Phinwydden yr Alban Wrth gwrs, dydym ddim yn gedru plannu'r coed yma ar unwaith felly mae angen claddu gwreiddiau'r coed i sicrhau nad ydynt yn sychu allan. Eleri yng nghanol y "tipi" coed, Ogwen Am y tro, cyn i ni creu ffôs i gladdu'r coed penderfynom i osod a trefnu'r coed fel a welwyd uchod.  Ffosydd Plas Tan y Bwlch (chwith) a Blaen

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Image
  Llun ohonaf yn egluro archaeoleg Carneddau i ffrindiau Wcrain, Abergwyngregyn Yn ystod fy wythnos cyntaf yn ôl o Nadolig, cefais y cyfle i fynychu taith o amgylch llwybrau a choedwig Abergwyngregyn gyda ffrindiau ac ymwelwyr o Wcrain, wedi'i drefnu gan Pobl i Bobl . Yn gwreiddiol, roedden nhw fod i ymweld â safle Henfaes i wneud bach o arddio ond gyda problemau amseru penderfynom bod fydd taith o gwmpas y llwybrau llawer gwell iddyn nhw. Er bod rhai yn siomedig yn y newid mewn planiau yma, wnaethom ni ein gorau i wneud y taith mwyaf arbennig iddyn nhw a gobeithio trafod a siarad am rhyw bethau diddorol doeddwn ni heb wedi'i trafod yn barod.  Llun o'r ymwelwyr yn cerdded ar draws bont yn Abergwyngregyn Roedd hi'n ddiwrnod cymylog a gwlyb ond yn doedd hynny ddim am stopio ni rhag esbonio rhywogaethau a pwrpasau'r Parc Cenedlaethol yn yr ardal hwnnw. Fel welwch yn y llun cyntaf, roedd diddordeb anferth gyda'n nhw i ddysgu am archaeoleg yr ardal pan gyrrhaeddwyd y

Adroddiad gyda'r RSPB

Image
  Gwlyptir Dyffryn RSPB, Ynys Môn Cefais amser diddorol ar y 12fed o Ragfyr yng Ngwlyptir Dyffryn yr RSPB yn Ynys Môn. Mae gen i ddau uned angen ei gwblhau ar fy nghwrs cadwraeth Coleg Cambria sef: Paratoi sut i gynnal arolwg maes a sut i adroddi arno & Cynnal adroddiad ar gyfer anifeiliaid . Rydw i'n gwneud unedau ynglŷn a diogelu gwlyptiroedd yn ogystal a felly roedd angen i mi wario dipyn o amser yn y maes gyda'r RSPB. Mae'r RSPB yn uno o bartneriaid Prosiect y Carneddau a felly roedd hi'n derbynnol i mi fynd yno i wario amser gyda nhw.  Pwrpas fy ymweliad ar y 12fed roedd gwneud adroddiad adar ar y safle. Yn gynnwys, roedd angen i mi helpu Ian Sims, ymchwilwr staff RSPB, er mwyn cyfri'r adar presennol ar y tri llyn: Traffwll, Treflesg a Penrhyn. Mae'r RSPB yn gwneud yr adroddiad yma'n fisol er mwyn cofnodi cyfrif y rhywogaethau a hefyd dysgu mwy am amseroedd ymfudo. Roedd angen i ni gofnodi'r adar roedd yn defnyddio'r ffynonell dŵr (y llyno

Daeth yr Eira

Image
Eira Cyntaf y Flwyddyn, Cwm Idwal Yn dilyn pythefnos hir o ymweld â theulu, roeddwn i nôl yn gwaith ar y Dydd Mawrth er mwyn plannu fwy o goed ym Mhenmachno. Bwriad plannu'r coed roedd creu gwrych o amgylch caeau'r defaid mewn partneriaeth gyda phrosiect Partneriaeth y Carneddau . Roedd 15,000 o goed wedi'i osod allan yn barod mewn bwndeli o 20 i bob rhywogaeth ac roedd digonedd o wirfoddolwyr! Oherwydd gwrych yw e, roedd angen i ni blannu'r coed yn agosach nag arfer (arfer yw 2m rhwng pob coeden), a felly plannwyd ni o amgylch 7 o goed i bob fetr.  Geth o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwirfoddolwyr yn plannu'r coed ym Mhenmachno Welwch y bwndeli o goed yn y llun uchod. Yn gynnwys yn y rhywogaethau roedd: Rhosyn y Ci, Derw, Draenen Wen, Draenen Ddu, Gwern, Cyll, Bedw ac Afalau Surion. Roedd 3 safle o wrych angen cael ei blannu - y safle cyntaf yw'r llun â ddangoswyd. Roedd filoedd o goed angen cael ei blannu ac felly roeddwn ni'n diolchgar bod gymaint