Torri Eithin ar Garnedd y Saeson


Llun ohonaf ar Garnedd y Saeson ar ddigwyddiad torri eithin


Ar yr 20fed o Ionawr roedd yna gyfle arall i ni gyd-weithio gyda sefydliadau eraill y Partneriaeth Tirwedd y Carneddau er mwyn clirio eithin oddi ar maes archeolegol y Carneddau. Roeddwn ni wedi bod yn gweithio ar maes Anafon, Abergwyngregyn eleni ond roedd y safle yna wedi'i orffen felly symudodd y grŵpiau ymlaen at safle bach yn uwch ar Garnedd y Saeson.

Mae yna carneddau wedi'i guddio ar fynydd Carnedd y Saeson, hence yr enw, yn yr eithin ac mae'n bwysig rydym yn darganfod a chlirio nhw rhag ofn iddyn nhw cael ei ddifetha a'i anghofio. Mae clirio safleoedd archeoleg yn bwysig oherwydd mae'n galluogi ni cael dealltwriaeth mwy eang o hanes yr ardal yn ogystal â chreu ymdrechion i'w goroesiad. Mae mynyddoedd Cymru llawn hanes sydd yn mynd yn ôl at miloedd o flynyddoedd a buasai'n bechod i ni parhau ei golli.

Archeolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Kathy Laws, yn trafod archeoleg y safle

Roedd nifer o gwrifoddolwyr yn bresennol yr amser yma (bron i 20) a felly roedd y bagiau llawn yn dod i lawr at y tân yn sydyn ac yn gyson. Dangoswyd Alff, aelod staff Cymdeithas Eryri, arddangosiad ar sut i dorri eithin cyn i'r gwirfoddolwyr mynd a'i wneud. Gan fod roedd gymaint o gwirfoddolwyr, roedd angen i 3 ohona ni (Fi, Eleri a Gwion) gweithio ar gadw'r tân yn gyson trwy llechio'r eithin arno mewn bwndeli.

Ddoeth Eleri y caets llosgi newydd gyda hi felly roedd y tân wedi'i rheoli. Mae angen ffonio'r adran tân lleol bob tro rydym yn llosgi eithin rhag ofn bod y gorsaf yn dod atom neu os rydynt yn gael galwadau.

Eithin yn cael ei losgi mewn caets ar Garnedd y Saeson

Er fod yna dal eira ar y mynydd, roedd hi'n amodau wych iddyn ni dorri eithin. Roedd yr haul allan a doedd hi ddim yn gwyntod felly taniodd yr eithin heb anhawsterau. Yn ychwanegol, roedd yr amodau yn wych i ni weld Frain Goesgoch ar y brynoedd cyferbyn. Ddoeth a Jack Slattery o'r RSPB ar ôl cinio gyda'i Scope er mwyn i'r gwirfoddolwyr gallu gweld yr adar yn agosach. Esboniais bod nid yn unig roedd y gwaith roedden nhw'n gwneud heddiw yn buddio'r archeoleg, ond roedd y llwybrau clir newydd yma am fuddio'r Fran Goesgoch yn y dyfodol hefyd. Wrth glirio'r arwyneb o eithin, mae fwy o ardal wedyn i'r adar fwydo ar y chwilod.

Yn y diwedd, roedd hi'n ddiwrnod llwyddiannus, brâf a phoeth (yn enwedig wrth ymyl y tân i mi Gwion ac Eleri). Roedd yr eithin yn llosgi'n uffernol o gyflym felly roedd angen i ni rhoi mwy arno bob 20 eiliad. O ganlyniad, roeddwn ni yn flinedig iawn erbyn diwedd y diwrnod, yn enwedig oherwydd roedd bag llawn arall yn dod i lawr at y tân bob 5 munud - a rhai gyda 2/3 bag! Yn amlwg, roeddwn i wedi blino fel welwch yn y llun ar y dde ond roeddwn i'n hapus bod gymaint o eithin wedi'i glirio!

Arosasom tan i'r lludw/siarcol oeri cyn iddyn ni ei arbed mewn bwcedi ar gyfer ein compost.

Diolch am ddarllen!







Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!