Adroddiad gyda'r RSPB

 

Gwlyptir Dyffryn RSPB, Ynys Môn

Cefais amser diddorol ar y 12fed o Ragfyr yng Ngwlyptir Dyffryn yr RSPB yn Ynys Môn. Mae gen i ddau uned angen ei gwblhau ar fy nghwrs cadwraeth Coleg Cambria sef: Paratoi sut i gynnal arolwg maes a sut i adroddi arno & Cynnal adroddiad ar gyfer anifeiliaid. Rydw i'n gwneud unedau ynglŷn a diogelu gwlyptiroedd yn ogystal a felly roedd angen i mi wario dipyn o amser yn y maes gyda'r RSPB. Mae'r RSPB yn uno o bartneriaid Prosiect y Carneddau a felly roedd hi'n derbynnol i mi fynd yno i wario amser gyda nhw. 

Pwrpas fy ymweliad ar y 12fed roedd gwneud adroddiad adar ar y safle. Yn gynnwys, roedd angen i mi helpu Ian Sims, ymchwilwr staff RSPB, er mwyn cyfri'r adar presennol ar y tri llyn: Traffwll, Treflesg a Penrhyn. Mae'r RSPB yn gwneud yr adroddiad yma'n fisol er mwyn cofnodi cyfrif y rhywogaethau a hefyd dysgu mwy am amseroedd ymfudo. Roedd angen i ni gofnodi'r adar roedd yn defnyddio'r ffynonell dŵr (y llynoedd) felly roedd Ian yn edrych trwy'r lens a'i gyfri tra oni yna i gofnodi mewn siartiau.

Llun o Ian Sims yn edrych trwy'r lens a chyfri'r adar, Llyn Penrhyn RSPB

Dysgais y ffordd gorau i gofnodi, yn ôl awgrymiad Ian Sims, trwy defnyddio acronymau yn lle ysgrifennu enwau cyfan. Roedd hyn yn diddorol gan fy mod i wedi defnyddio techneg tebyg yn ystod fy ngradd prifysgol pan gofnodi ymddygiad anifeiliaid. Dangoswyd Ian y ffordd gorau i mi gofnodi'r adar trwy defnyddio'r llythyren (neu llythrennau) cyntaf enw'r anifail. Dyma enghreifftiau isod:

MA = Mallard Duck                CO = Coot
SN = Snipe                               H = Heron
TU = Tufted Duck                    T = Teal


Cymerodd hi dipyn o amser erbyn i mi gofio'r acronymau ar gyfer pob aderyn ond ar ôl cwpl o oriau, a nifer o atgofion gan Ian, roeddwn i wedi arfer nes diwedd y diwrnod. Gwelwch yn yr enghreifftiau bod rhai o'r rhywogaethau yn cychwyn gyda'r un llythyren fel Tufted Duck a'r Teal. Yn glir, cafodd Teal ei gofnodi yn gyntaf fel acronym felly roedd rhaid iddyn nhw defnyddio'r ail llythyren ar gyfer y Tufted Duck sef TU. Roeddwn i wedi synnu sut mae Ian yn cofio popeth ond mae'n siwr o gael atgof dda ar ôl ei astudio am ddegawdau.

Roedd y proses o gwneud adroddiad adar yn hawdd ac yn bleserus. Mae angen gael sgiliau gwrando, arsylwi a chofnodi da er mwyn gwneud yr adroddiad - yn enwedig adar ble fedri di cyfri degawdau a chanoedd ar unwaith. Penderfynais i'w gofnodi fel siart tali am y niferoedd llai na 30 y tro ond unrhywbeth uwch roeddwn i'n ysgrifennu'r rhif a'i adio at y cyfanswm ar y diwedd. Mae hi'n broses sydyn ofnadwy oherwydd ymddygiad yr adar. Yn fwy aml na ddim, roedd yr adar yn hedfan i ffwrdd wrth i ni gyfri felly roedd rhaid i ni fod yn ofalus iawn i beidio ail-gyfri adar ac i arsylwi yn ddistaw. 

Dywed Ian bod hi'n bwysig i beidio or-gyfri oherwydd y rheswm penodol yma. Mae rhaid hefyd cofnodi'r adar â oedd yn defnyddio'r ffynonell dŵr yn unig - hyd yn oed os roedd adar diddorol yn hedfan uwchben. Mewn adroddiadau gwahanol sydd yn ychwanegu rhywedd ac ymddygiad yr anifail mae'n glir bod angen fwy o bobl i gofnodi. 

Fy waith cofnodi yr adroddiad adar, RSPB

Mae'r tywydd yn medru bod yn broblem yn ystod amseroedd adroddiad a lwcus i ni (fel welwch yn y lluniau) bod chafodd ni tywydd gwych a clir ar gyfer cofnodi. Yn amlwg, mae tywydd gwlyb a gwyntog yn broblem, yn enwedig wrth ymyl ffynonellau dŵr, oherwydd ei fod yn lleihau gweledigedd ac yn difetha offer cofnodi. Maent llawer anoddach cofnodi yn y glaw ond dywed Ian bod niwl yw'r gwaethaf. Tydi apiau tywydd ddim bob tro yn ystyried niwl ar y siartiau a felly mae'n nhw'n cyrraedd safle yn meddwl bod y tywydd am fod yn dda a tydi nhw ddim yn gallu gweld dim byd. 
Yn gyferbyn, dywed Ian bod tydi haul llachar ddim o'r gorau chwaith. Ystyriwch rydych yn ceisio cyfri adar sydd yn hedfan o flaen yr haul, mae hi'n dasg anodd iawn a felly mae dipyn o gymylau ar ddiwrnod heulog o'r amod gorau.

                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                 Dyma un o'r cofnodion terfynol ar ôl i ni orffer yr adroddiad. Mi wnes i adio fyny'r holl talis a'r rhifau uwch na 30 a'i roi mewn cylch wrth ymyl acronym y rhywogaeth. Penderfynais i dynnu lluniau o'r cofnodion wrth i mi fynd ymlaen rhag ofn iddyn nhw baeddu neu bod hi'n cychwyn bwrw. 





Yn ystod fy ddiwrnod gyda'r RSPB, dysgais llawer am reolaeth cynefin gwlyptir hefyd. Mae llawer angen gael ei wneud er mwyn cynnal a chadw gwlyptir yn enwedig mewn amseroedd ble mae'r newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ar amseroedd ymfudo a chyfoeth rhywogaethau a'r ansawdd dŵr. 

Agorwyd y gwarchodfa yn 1986 ar ôl i'r aderyn Bittern cael ei ynganu'n diflanedig dwy flwyddyn cynt. Doedden nhw heb gael ei weld na'i chofnodi ers flynyddoedd yn ôl i Ian Sims a dywedodd bod gwariodd flynyddoedd yn ceisio clywed y cân nodedig - hyd yn oed yn y tywyllwch 3/4 o'r gloch yn y bore. Mae'r safle yn gymdogion i'r safle Fali RAF Gogledd Cymru a dywed bod roedd problemau yn y gorffennol gydag ansawdd Ffosffad y dŵr o garthion yr RAF. Pan gychwynnodd yr adroddiad roedden nhw'n gobeithio am ddarlleniad <100mg/dL ond roedd y canlyniad dros 2000mg/dL! Ar ôl ymdrechion fel rheolaeth dŵr a rheolaeth cyrs mae'r rhif nawr yn darllen 200mg/dL ond mae hynny dal dwbl beth ddylid o fod. Un ffordd mae'n nhw'n gwneud hyn yw defnyddio sluce sydd yn setio allan yr lefelau dŵr yn y caeau. Pan mae'r lefelau dŵr yn cael ei ostwng mae wedyn angen gwneud rheolaeth cyrs sef osgoi cronni yn y gwely ac echdynnu i fyny at 30cm o'r cyrs y tro i greu llif dŵr dibynadwy. Esboniodd Ian bod torri'r cyrs mewn clytiau yn fwy buddiol na gwneud ardal cyfan oherwydd dangoswyd bod hi'n parau o 5 i 10 mlynedd o llwyddiant ac bod hyn wedi bod yn rhan o lwyddiant y rhywogaeth Bitten dychwelyd.

Mae yna ddau fath o sluce i reoli lefelau dŵr y gwlyptir. Un yn sylwedd concrit cyffredinol sydd yn gael ei agor a chau gan ddarnau o bren a'r ail yn beiben a chollar sydd yn gael ei reoli trwy ei dynnu yn y gyfeiriad cyferbyn i stopio'r llif. Er mwyn gwneud yr echdynniad sluce, mae rhaid iddyn nhw derbyn canitad gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn flynyddol.


Cymhariad o sluce concrit (chwith) a sluce peipen (dde)

Mae'r Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) hefyd yn gwneud adroddiadau er mwyn monitro ansawdd y dŵr ac un bwysig roedd yr adroddiad ar bresenoldeb macroffitau. Fe edrychodd yr adroddiad ar ansawdd ac eglurder y rhywogaethau, lefelau pH, gorchudd planhigion, dyfnder uchafswm, cyfoeth y rhywogaethau, unrhyw rhywogaethau dangosyddion a'r presenoldeb o rywogaethau brodorol a ymledol. 

Er bod poblogaeth yr Bitterns wedi dychwelyd i'r gwarchodfa wedi rwan, mae dal llawer o waith gadwriaethol yno ar gyfer sicrhau dyfodol rhywogaethau eraill. Er enghraifft mae niferoedd Lapwing wedi bod yn gostwng ers y degawd diwethaf ar y safle ac felly mae ymdrechion wrthi ar y funud er mwyn atal ei ddifodiant.

Dysgais gymaint ar reolaeth gwlyptiroedd ar fy ddiwrnod gyda'r RSPB yn ogystal â chael profiad wyneb-i-wyneb ar sut i wneud adroddiad adar. Mae'r RSPB yn gwneud yr adroddiad yma'n fisol ond maent yn gwneud adroddiad craidd WEBs (Wetland Bird Survey) rhwng mis Medi a Rhagfyr felly rwy'n gobeithio fedrai dychwelyd i wneud mwy o adroddiadau gyda nhw!

Diolch am ddarllen!









Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!