Daeth yr Eira
Eira Cyntaf y Flwyddyn, Cwm Idwal
Yn dilyn pythefnos hir o ymweld â theulu, roeddwn i nôl yn gwaith ar y Dydd Mawrth er mwyn plannu fwy o goed ym Mhenmachno. Bwriad plannu'r coed roedd creu gwrych o amgylch caeau'r defaid mewn partneriaeth gyda phrosiect Partneriaeth y Carneddau. Roedd 15,000 o goed wedi'i osod allan yn barod mewn bwndeli o 20 i bob rhywogaeth ac roedd digonedd o wirfoddolwyr! Oherwydd gwrych yw e, roedd angen i ni blannu'r coed yn agosach nag arfer (arfer yw 2m rhwng pob coeden), a felly plannwyd ni o amgylch 7 o goed i bob fetr.
Geth o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwirfoddolwyr yn plannu'r coed ym Mhenmachno
Welwch y bwndeli o goed yn y llun uchod. Yn gynnwys yn y rhywogaethau roedd: Rhosyn y Ci, Derw, Draenen Wen, Draenen Ddu, Gwern, Cyll, Bedw ac Afalau Surion. Roedd 3 safle o wrych angen cael ei blannu - y safle cyntaf yw'r llun â ddangoswyd. Roedd filoedd o goed angen cael ei blannu ac felly roeddwn ni'n diolchgar bod gymaint o wirfoddolwyr ac aelodau staff y Parc Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a sefydliadau eraill wedi ymuno.
Ar ôl cinio yn y Capel cyfagos a'r newid i dri safle gwahanol i blannu roedd hi'n cychwyn tywyllu felly helpom i hel yr coed ar ôl ar ochrau'r ffens er mwyn i'r ffermwyr ei gasglu gyda feic-cwad. Roedd tua 1500 o goed wedi'i gasglu ar ddiwedd y diwrnod felly yn gyffredinol fe blanwyd ni tua 13,500 o goed mewn diwrnod! Welwch ar y llun ar y chwith o Eleri yn plannu coed ar y gwrych.
Roeddwn i yn ymuno gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am weddill yr wythnos a cychwynnodd y tymheredd gostwng yn gyflym ac yno Ddaeth yr Eira...
Llun ohonaf yng Nghwm Idwal ar ôl i'r eira cyrraedd
Cefais y cyfle i fynd am dro i fyny Cwm Idwal er mwyn gweld yr eira (a siecio bod y cyhoedd yn iawn ar y llwybrau ar yr un pryd) ble dynnais y llun ohonaf sydd i'w weld uchod. Mae eira yn hardd ac yn gynhyrfus iawn ond mewn swyddi cadwriaethol, mae'n gallu achosi nifer o oedi a phroblemau gweithio. Mae gwaith tu allan llawer anoddach yn yr eira, ac wrth gwrs llawer oerach, felly roedd angen i mi baratoi'n fwy dwys cyn gweithio ynglŷn â Iechyd & Diogelwch.
Golygai hyn fod roedd angen i rhai aelodau staff gwisgo cleats rhew pan mynd fyny'r mynyddoedd ac roedd angen i mi gwisgo'n gynhesach a chario fflasg a thermos gyda fi (os rydych medru gweld ar y llun uchod). Yn ffodus i ni, doeddwn ni ddim yn gorfod gweithio ar y Dydd Gwener oherwydd roedd 2 parti Nadolig gen i! Roedd parti'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mwthyn Ogwen yn ystod y dydd ac roedd parti y Parc Cenedlaethol ym Maentwrog gyda'r nôs. Felly, yr unig beth roedd angen ei wneud roedd paratoi yr addurniadau a'r bwyd a mwynhau'r eira trwm â ddaeth ar fore Dydd Gwener - gwelwch isod:
Eira ym Mwthyn Ogwen ar ddiwrnod ein parti Nadolig
Comments
Post a Comment