LLUNIAU DIWEDDAR!
Cyfeillion, ymddiheuriadau dwys fy mod i heb diweddaru fy mlog ers gwpl o fisoedd - mae gen i bethau cyffroes i ddod ond wedi bod mor brysur yn y cyfamser trwy gorffen plannu filoedd o goed, cynnal digwyddiadau gwirfoddol ac ella gael swydd newydd...
Dyma gyfres o luniau er mwyn cael syniad o'r math o bethau rwyf wedi bod yn brysur arni - manylion i ddod!
Cyfweliadau Lleisiau'r Carneddau ym Mhenmaenmawr
Plannu Coed gyda Ysgol Dyffryn Enfys
Cyd-weithio gyda Chymdeithas Eryri yn plannu coed ym Mala
Cymeryd rhan mewn Noson Awyr Dywyll, gyda Dani Robertson
Criw Sŵoleg Prifysgol Bangor yn dod i blannu coed gyda'n ni ar Fferm Blaen y Nant
Mwy o goed i'w blannu ar Fferm Pant y Neuadd, Bala
Hadau Castanwydden Bêr a Meithrinfa Coed Blaen y Nant wedi'i sefydlu!
Cwblhau prosiect plannu coed yn Nolgellau
Taith i Lyn Anafon gyda Ysgol Tryfan
Trip i Gastell Penrhyn gyda Ysgol Llanllechid
Ymweliad a Darlitho i fyfyrwyr Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor
Cynnal dig archeolegol i fyfyrwyr Prifysgol Sheffield yn Rowen
Gobeithio rydych yn hoffi'r trosolwg o luniau o beth sydd wedi cadw fi'n brysur yr misoedd diwethaf. Un beth yn benodol sydd wedi cadw fi oddi wrth y blog yma ydy cyfleoedd newydd o fewn y Parc Cenedlaethol. Fel rydych yn gwybod, mi ydw i yn Brentis ar hyn o bryd ar gyfer Partneriaeth Tirwedd y Carneddau. Mi rydw i'n hapus i ddweud fy mod i wedi derbyn swydd o fewn y Cynllun fel Swyddog Ymgysylltu Cymunedol y Gogledd! Rwyf yn edrych ymlaen at y rôl newydd ac gobeithio bydd yr blog yma yn dod â ysbrydoliaeth i'r prentis nesaf -- lle bynnag ydych chi!
Comments
Post a Comment