Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

 

Llun ohonaf yn egluro archaeoleg Carneddau i ffrindiau Wcrain, Abergwyngregyn

Yn ystod fy wythnos cyntaf yn ôl o Nadolig, cefais y cyfle i fynychu taith o amgylch llwybrau a choedwig Abergwyngregyn gyda ffrindiau ac ymwelwyr o Wcrain, wedi'i drefnu gan Pobl i Bobl. Yn gwreiddiol, roedden nhw fod i ymweld â safle Henfaes i wneud bach o arddio ond gyda problemau amseru penderfynom bod fydd taith o gwmpas y llwybrau llawer gwell iddyn nhw.

Er bod rhai yn siomedig yn y newid mewn planiau yma, wnaethom ni ein gorau i wneud y taith mwyaf arbennig iddyn nhw a gobeithio trafod a siarad am rhyw bethau diddorol doeddwn ni heb wedi'i trafod yn barod. 

Llun o'r ymwelwyr yn cerdded ar draws bont yn Abergwyngregyn

Roedd hi'n ddiwrnod cymylog a gwlyb ond yn doedd hynny ddim am stopio ni rhag esbonio rhywogaethau a pwrpasau'r Parc Cenedlaethol yn yr ardal hwnnw. Fel welwch yn y llun cyntaf, roedd diddordeb anferth gyda'n nhw i ddysgu am archaeoleg yr ardal pan gyrrhaeddwyd y model o'r cynefin. Roedd hyn yn gyfle da i mi esbonio'r gwaith fe wnes i ddysgu yn ystod y Digwyddiad Bwyeill Neolithig (gwelwch y blogiau perthnasol). Dangosais lluniau o'r darganfyddiadau ar fy ffôn iddyn nhw ac roedden nhw wrth eu boddau dysgu am ein hanes. 

Roeddwn i wedi cwrdd â rhai o'r ffrindiau o Wcrain o'r blaen yn ystod ein ymweliad i Ffarm Moelyci a felly teimlais hapus a cyffyrddus i siarad gyda'n nhw eto, yn enwedig mewn safle gwahanol fel eu bod yn cael profiad amrywiol o tiriogaethau Gogledd Cymru. Siaradais am rywogaethau'r coed yn ystod y taith a sut hefyd rydym yn eu hadnabod yn ystod y Gaeaf. Tro diwethaf, roeddwn ni'n casglu hadau ym Moelyci yn ystod Hydref a felly roedd hi'n gymaint haws i ddweud pa goeden roedd pa un ond ar ôl y taith yma i Abergwyngregyn rwy'n gobeithio bod nhw wedy dysgu sut i adnabod coed heb ddail na hadau.

Trefnwyd Pobl i Bobl ymweliad i Gaffi lleol er mwyn gorffen y diwrnod - Caffi Hen Felin.

Llun ohonom yng nghaffi Hen Felin, Abergwyngregyn

Fel welwch uchod, roedd cyfle i ni eistedd i lawr i gael paned a chacen a trafodaeth ar bethau rydym wedi dysgu ar ein taith o gwmpas llwybrau Abergwyngregyn. Roedd hefyd y cyfle i ni, fel arweinwyr, dysgu am eu profiadau nhw a sut mae tiriogaethau Cymru yn wahanol i beth rydyn nhw'n gweld adref yn Wcrain. Cefais cyfle i gydymffurfio gyda'r ffrindiau a dymuno bod y taith heddiw wedi rhoi bach o hapusrwydd yn ôl iddyn nhw.

Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Phobl i Bobl a gobeithio byddwn yn gweld fy ffrindiau o Wcrain eto ar daith arall. 







Comments

Popular posts from this blog

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!