Archebion Coed
Fi gyda archeb o goed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Gwariais llawer o amser wythnos yma yn trefnu a chladdu ordor coed yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Parc Cenedlaethol. Mae filoedd o goed wedi cael eu harchebu iddyn ni fel rhan o gwblhau targedau plannu coed i'r Partneriaeth Tirwedd y Carneddau. Y blwyddyn yma yn unig, mae angen i tua 15,000 o goed cael ei blannu rhyngddyn ni.
Welwch yn y llun uchod un ordor o goed (4,000 i fod yn benodol) a chafodd ei roi o flaen adeilad Ogwen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn gynnwys yn yr archeb roedd:
Draenen Wen, Gwern, Derw, Criafolen, Coed Afalau Surion, Cwngoed a Phinwydden yr Alban
Wrth gwrs, dydym ddim yn gedru plannu'r coed yma ar unwaith felly mae angen claddu gwreiddiau'r coed i sicrhau nad ydynt yn sychu allan.
Eleri yng nghanol y "tipi" coed, Ogwen
Am y tro, cyn i ni creu ffôs i gladdu'r coed penderfynom i osod a trefnu'r coed fel a welwyd uchod.
Ffosydd Plas Tan y Bwlch (chwith) a Blaen y Nant (dde)
Mae angen claddu'r coed i gladdu'r holl gwreiddiau er mwyn sicrhau eu goroesiad. Fel welwch yn y lluniau o'r ffosydd, does dim dail ar y coed oherwydd bod y coed wedi mynd i fewn i'r system cysgiad dros y Gaeaf. Golygai hyn fod tydy nhw ddim yn derbyn unrhyw maetholion ychwanegol ar gyfer y dail a felly maent yn llawer mwy tebygol o oroesi yn y Gaeaf oer. Dyma'r rheswm hefyd rydym gyda digwyddiadau plannu yn ystod y Gaeaf/Gwanwyn cynnar, oherwydd rydym angen symud y coed o'r pridd mewn un lle i rhywle arall (tydi nhw ddim yn cael gymaint o sioc gyda'r newid).
Ar ôl sicrhau bod y gwreiddiau i gyd wedi'i gorchuddio, byddwn yn gadael iddyn nhw fod nes rydym gyda digwyddiadau plannu a rydym angen cymeryd y coed yn eu bwndeli.
Rydw i'n edrych ymlaen at blannu'r coed yma gyda gwirfoddolwyr a grŵpiau ysgol.
Comments
Post a Comment