Ta Ta Prentisiaeth :(

 

Y ddwy prentis Carneddau, fy hun ac Eleri Turner (chwith)

Annwyl darllenwyr,

Fedrai ddim coelio bod fy nghyfnod fel Prentis ar gyfer Partneriaeth Tirwedd y Carneddau wedi dod i ben. Mae hi wedi bod yn flwyddyn o waith ANHYGOEL a fedrwn i ddim yn dymuno dim newidiadau. I roi bach o gyd-destun, mi roedd y swydd am gyfnod o flwyddyn felly do rwyf wedi gorffen braidd yn gynharach. Y rhesymau yw:

1. Roeddwn i wedi cwblhau rhan fwyaf o fy ngwaith gyda Choleg Cambria cyn ddiwedd yr flwyddyn
2. Ceisiais a derbynais swydd foddhaol gyda'r Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau

Tan ddiwedd y cynllun (sef Rhagfyr 2025) fyddai dal i barhau i weithio ar y Cynllun Carneddau ond yn lle fel prentis, rydwyf nawr yn Swyddog Ymgysylltu Cymunedol - i Gogledd y Carneddau felly ar hyd yr arfordir lawr Dyffryn Conwy. Mae hyn yn golygu byddai nawr yn gyfrifol am gysylltu cymunedau'r Carneddau gyda'r ardal a'r gwaith sydd yn mynd ymlaen yn ogystal â chreu perthnasoedd yr cymunedau yma gyda'i gilydd a gyda threftadaeth yr mynyddoedd hefyd.

Mae swyddog newydd, Tara Hall, wedi fy ymuno yn ogystal fel Swyddog Ymgysylltu Cymunedol - yn gorchuddio Dê yr Carneddau felly o Drefriw i lawr drwy Ogwen ac i fyny i Abergwyngregyn.

Fi a Tara (dde) yn cychwyn ein swyddi fel Swyddogion Ymgysylltu Cymunedol

Rwyf wedi dysgu gymaint wrth gweithio fel prentis i'r Cynllun Carneddau a theimlaf bydd yr sgiliau a chymwysterau rwyf wedi derbyn am aros gyda fi trwy fy nghyrfeydd dyfodol hefyd.

Mae'r cymwysterau rwyf wedi derbyn y flwyddyn yma yn gynnwys:

  • Chwynladdwyr (os rydych chi wedi bod yn dilyn y blog yma ma hir, cofiwch roedd y cwrs yma yn ystod fy wythnos gyntaf!)
  • Adnabod Coed Llydanddail
  • Hyfforddiant LiDAR
  • Sut i brosesu a chasglu hadau
  • Cymorth Cyntaf (REC) a Chymorth Cyntaf yn y Goedwig
ac rwyf wrthi yn cwblau cyrsiau ychwanegol sef ILM 3 Rheoli Gwirfoddolwyr ac Hyfforddiant y Wasg -- i gyd trwy gwblhau'r L2 Cadwraeth, Coed ac Amaeth trwy Coleg Cambria!

Yn son am Goleg Cambria, derbynais gwobr arbennig yn ystod ei Seremoni Gwobrau 2023.

Ennillais:

Prentis Cymraeg yr Flwyddyn 2023!



Llun ohonaf yn derbyn y gwobr gan Kamal Ellis-Hyman, siaradwr gwestai yr seremoni

Roeddwn i'n falch iawn i dderbyn y gwobr yma ar ôl fy ngwaith caled yr flwyddyn diwethaf yma, roedd hi'n wych cael yr adnabyddiaeth felly diolch pwysig i Geraint Ellis, fy nhiwtor Coleg Cambria, Rhydian Roberts a John Foster, o'r adran Coedwigaeth y Parc Cenedlaethol ac wrth gwrs aelodau Carneddau, Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac unrhyw staff o ein Bartneriaid sydd wedi fy helpu ar y ffordd.

Rwyf hefyd wedi derbyn gwobr ychwanegol gan yr Livery Company of Wales oherwydd fy ngwaith galed fel prentis.

Cychwynais y blog yma fel cyfle i mi gofnodi fy holl gweithgareddau a'r gwersi rwyf wedi dysgu ar y ffordd. Ddoe, mi wnaethom ni cyfweld a phigo ein Prentis 2023-2024 felly os rwyt ti'n darllen hyn Llongyfarchiadau a chroeso i'r flwyddyn gorau o dy fywyd.

Diolch yn fawr i chi gyd am gymhorthu fi ar y ffordd trwy darllen fy mlog bach.

Fyddai o gwmpas cymunedau'r Carneddau o nawr felly os rydych eisiau cysylltu neu gyda urhyw gwestiynau plis cysylltwch â: carneddau@eryri.llyw.cymru

DIOLCH ENFAWR!!












Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!