Adroddiad gyda'r RSPB
Gwlyptir Dyffryn RSPB, Ynys Môn Cefais amser diddorol ar y 12fed o Ragfyr yng Ngwlyptir Dyffryn yr RSPB yn Ynys Môn. Mae gen i ddau uned angen ei gwblhau ar fy nghwrs cadwraeth Coleg Cambria sef: Paratoi sut i gynnal arolwg maes a sut i adroddi arno & Cynnal adroddiad ar gyfer anifeiliaid . Rydw i'n gwneud unedau ynglŷn a diogelu gwlyptiroedd yn ogystal a felly roedd angen i mi wario dipyn o amser yn y maes gyda'r RSPB. Mae'r RSPB yn uno o bartneriaid Prosiect y Carneddau a felly roedd hi'n derbynnol i mi fynd yno i wario amser gyda nhw. Pwrpas fy ymweliad ar y 12fed roedd gwneud adroddiad adar ar y safle. Yn gynnwys, roedd angen i mi helpu Ian Sims, ymchwilwr staff RSPB, er mwyn cyfri'r adar presennol ar y tri llyn: Traffwll, Treflesg a Penrhyn. Mae'r RSPB yn gwneud yr adroddiad yma'n fisol er mwyn cofnodi cyfrif y rhywogaethau a hefyd dysgu mwy am amseroedd ymfudo. Roedd angen i ni gofnodi'r adar roedd yn defnyddio'r ffynonell dŵr (y llyno