Posts

Showing posts from November, 2022

Ymweliad Meithrinfa Prees Heath

Image
  Meithrinfa Prees Heath, Whitchurch, Lloegr Teimlais dysgu llawer yr wythnos yma am gynhyrchiad a chyflenwad coed i ardaloedd gwahanol y Parc Cenedlaethol. Rwyf wedi dysgu llawer am dyfu ac edrych ar ôl ein coed yn ystod fy misoedd cyntaf o'r swydd, ond nawr rydym yn cychwyn yr misoedd plannu a chyflenwi a thrwy hynny mae rhaid i mi ddysgu ar sut rydym yn prynu'r coed nad ydym yn cynhyrchu ein hunain a sut rydym yn dosbarthu rheini o amgylch y Parc. Dechreuais yr wythnos yma yn gorffen plannu weddill ein hadau yn ein Meithrinfa Tan y Bwlch. Roedd dipyn o fês a chastanwydden bêr, Castanea sativa , ar ôl iddyn ni blannu ac ar ôl gweithio am dipyn roedd y meinciau yn llawn o'r diwedd - er bod dal dipyn o hadau gennym ni ar ôl.  Yn dilyn glaw a wynt brwnt dros y benwythnos, roedd angen i ni cael golwg gydag Rhydian Roberts, fy rheolwr, ar goeden Ywen a ddisgynnodd uwchben un o'r llwybrau cyhoeddus ym Mhlas Tan y Bwlch. Roedd y coeden wedi'i dorri a'i ddisgyn ar ben

Ymwelwyr o Wcrain a Syria yn hel hadau ym Moelyci

Image
  Llwybr Mawddach, Abergwynant, Dolgellau Cychwynom yr wythnos yma yn Nolgellau, ble aethom ni (John Foster, Gwion a fy hun) ymweld â'r coedwig Abergwynant, sydd wedi'i berchen gan y Parc Cenedlaethol Eryri wedi hyn. Pwrpas yr ymweliad roedd dangos bod y mathau o goedlannau yn newid o amgylch y Parc Cenedlaethol a mae ffactorau eraill i ystyried os rydym yn gweithio ynddyn neu wrth eu hymyl. Er enghraifft, mae'r Coedwig Abergwynant wrth ymyl Llwybr Mawddach , sydd yn llwybr hardd, cyhoeddus sydd yn estynnu am dua 9 filltir ar hyd Afon Mawddach. Mae'r llwybr o hyd yn brysur oherwydd y golygfeydd hardd a'r llwybr fflat hawdd sydd yn hygyrch i bawb ac felly mae rhaid ystyried hyn os rydym yn gweithio yno. Roedd angen i ni trwsio un o'r giatiau ar yr ymweliad yn ogystal â cherdded i fyny dipyn o'r llwybrau i siecio os oes angen gwaith cynnal a chadw ei wneud ar y llystyfiant.  Wrth i ni chwilio yn nhrwyadl trwy'r coedwig, fe ddawn ni ar draws nodwedd arbenni

Hyfforddiant LiDAR

Image
  Dyluniad LiDAR o Garreg Fawr, Llanfairfechan Mewn wythnos gwaith eithaf distaw, roedd un digwyddiad ar y Dydd Mercher yn diddorol iawn. Cefais y cyfle i hyfforddi ar LiDAR, sef " Light Detection and Ranging ". Pwrpas LiDAR yw creu modelau 3D o fapiau, gwrthrychau ac amgylcheddau. Maent yn gweithredu trwy defnyddio technoleg laser i gasglu mesuriadau arwynebau. Mae filoedd o fesuriadau yn cael ei gymeryd gyda'r laser o gwrthrychu'r golau sydd wedyn yn cael ei yrru yn ôl at y derbynnedd system a'r amser hedfan i ddatblygu map pellter o'r gwrthrychau ar yr arwyneb.  Felly beth yw LiDAR? Maent yn creu model 3D fanwl gywir o arwyneb y ddaear Yn gallu "gweld-trwy" llystyfiant Yn dosbarthu data uchder fanwl gywir Yn creu llun fanwl o archaeoleg yr arwyneb - hyd yn oed sylweddau sydd ddim i'w weld gyda llygaid Mae LiDAR yn ychwanegu tuag at safleoedd o diddordeb fel ardaloedd archaeolegol trwy ychwanegu at y gwybodaeth sydd barod ar gael ac efallai cyn

Chwilio am bathewod a Chlirio Eithin

Image
  Fi ag Eleri ar faes archaeolegol, Anafon Ymddiheuriadau am y blogiau hwyr yn ddiweddar. Rwyf gyda nifer o waith cwrs coleg i'w wneud, yn enwedig ar ôl fy asesiad cyntaf ac rwyf wedi bod yn gweithio'n galed gyda gwirfoddolwyr ar ddigwyddiadau gwahanol er enghraifft casglu hadau a chlirio eithin ar faesydd archaeolegol - fe wnai esbonio mwy am hyn yn y blog yma! Yn ystod yr wythnos yma cefais fy nghyfle gyntaf i weithio gyda chwynladdwyr. Roedd angen i un o'r caeau yn Henfaes ei chwistrellu gydag Glyphosate (yr cemegyn o fewn chwynladdwyr) oherwydd mae angen ei arddu yn nes yn y dyfodol. Y rheswm penderfynwyd ar ddefnyddio cemegion roedd dydym ni ddim eisiau'r chwyn tyfu yn ôl yn y dyfodol, yn enwedig os rydym yn penderfynu plannu coed ar y cae ac ehangu'r meithrinfa. Pan gweithio gyda chemegion fel Glyphosate, mae PPE yn hynod o bwysig er mwyn diogelu fy hun ac eraill. Yn yr achos yna, roedd y cae yng nghanol llwybrau i fywyd gwyllt fel ceffylau a cwningod ac felly

Asesiad Cyntaf, Chwilio am Fran Goesgoch a Chaffi Carneddau!

Image
Arwydd Caffi Carneddau Mai wedi bod yn wythnos prysur fel Prentis y Carneddau wythnos yma - dwi'n sicr fy mod i'n dweud hynny pob wythnos! Cefais fy asesiad cyntaf gan Coleg Cambria o ran fy nghwrs Cadwraeth ar gychwyn yr wythnos wedi'i ddilyn gan cynnal a chadw ein meithrinfeydd coed, chwilio am Fran Goesgoch gyda'r RSPB a gorffen yr wythnos gyda Chaffi Carneddau yn Nhrefriw. Llun Grŵp ohonaf, Jon Foster, Gwion a Sam Fel arfer, cychwynais yr wythnos gyda'r tîm coedwigaeth y Parc Cenedlaethol (fel welwch yn ein llun grŵp uchod). Roedd cangen oddi ar Ffawydden enfawr wedi disgyn ar un o llwybrau yng nghoedwig Tan y Bwlch rhai wythnosau yn ôl ac felly roedd mwy o'r coeden angen cael ei dorri er mwyn i'w gydbwyso. Golygai hyn fod rhaid i Sam, contractwr dringwr coed i'r Parc, angen dringo'r coeden ac asesu pa ganghenion sydd angen ei ollwng. Roeddwn i a Gwion yno i helpu rhoi'r canghenion yn y chippar wrth gwrs ond hefyd er mwyn edrych ar y llwybr