Asesiad Cyntaf, Chwilio am Fran Goesgoch a Chaffi Carneddau!

Arwydd Caffi Carneddau

Mai wedi bod yn wythnos prysur fel Prentis y Carneddau wythnos yma - dwi'n sicr fy mod i'n dweud hynny pob wythnos! Cefais fy asesiad cyntaf gan Coleg Cambria o ran fy nghwrs Cadwraeth ar gychwyn yr wythnos wedi'i ddilyn gan cynnal a chadw ein meithrinfeydd coed, chwilio am Fran Goesgoch gyda'r RSPB a gorffen yr wythnos gyda Chaffi Carneddau yn Nhrefriw.

Llun Grŵp ohonaf, Jon Foster, Gwion a Sam

Fel arfer, cychwynais yr wythnos gyda'r tîm coedwigaeth y Parc Cenedlaethol (fel welwch yn ein llun grŵp uchod). Roedd cangen oddi ar Ffawydden enfawr wedi disgyn ar un o llwybrau yng nghoedwig Tan y Bwlch rhai wythnosau yn ôl ac felly roedd mwy o'r coeden angen cael ei dorri er mwyn i'w gydbwyso. Golygai hyn fod rhaid i Sam, contractwr dringwr coed i'r Parc, angen dringo'r coeden ac asesu pa ganghenion sydd angen ei ollwng. Roeddwn i a Gwion yno i helpu rhoi'r canghenion yn y chippar wrth gwrs ond hefyd er mwyn edrych ar y llwybr o'r ddau ochr i diogelu unrhyw berson roedd yn gobeithio pasio.

Fel welwch yn y llun ar y chwith, mae'r coeden yn edrych fel ei fod am fethu a disgyn ym mhellach, felly roedd y gwaith gostyngiad goron yn angenrheidiol er mwyn arbed y ffawydden. Fe wnaeth y ganghenion a dorrwyd Sam dod i lawr yn hawdd ac yn ddiogel a darganfyddais nifer o'i hadau wrth mynd ymlaen. Fe wnes i arbed yr hadau yma er mwyn ceisio ei blannu yn un o ein feithrinfeydd coed.


Mantais i'r cangen disgyn = Mi fedrith agoriadau ar goed fel sydd wedi digwydd gyda'r ffawydden fod yn fantais i fywyd gwyllt o gwmpas er mwyn bwydo a nythu!




Asesiad Cyntaf gyda Choleg Cambria

Ar y Dydd Mawrth, cefais ymweliad gan fy nhiwtorau o Goleg Cambria er mwyn fy asesu ar fy aseiniad cyntaf: Iechyd a Diogelwch yn y gweithle. Fe wnes i gwblhau llwythi gwaith a'i yrru iddyn nhw cyn y dyddiad a gofynwyd ac felly roedd yr amser yma yn gyfle iddyn nhw rhoi adborth i fy atebion ac arsylwi fy ngwybod ar faes byw. 

Fe aethom ni o amgylch Depo y Parc Cenedlaethol ble roeddwn i'n egluro'r camau i sicrhau Iechyd a Diogelwch diogel a chywir a pha camau roeddwn yn cymeryd i sicrhau hyn. Roedd angen i mi ddangos ble roedd offer/cemegion ag offer cymorth cyntaf yn cael eu cadw yn ogystal â sut roeddwn i'n sicrhau diogeledd y safle trwy cloi drysau a giatiau. 

Wedyn, dangosais ein Meithrinfa Coed Tan y Bwlch gan wneud arddangosiad o'r gwaith potio a plannu rydym yn gwneud yna. Roedd yr asesiad yn llwyddiannus ac roedd fy nhiwtorau yn falch gyda'r waith roeddwn i wedi cwblhau yn ystod fy asesiad cyntaf. Fe wnaethom ni gorffen y diwrnod trwy gyfarfod gweddill y tîm coedwigaeth yng nghoedwig Tan y Bwlch, ble roedd Sam yn gorffen torri'r canghenion ar y ffawydden.

Roeddwn i'n hapus iawn gyda'r diwrnod o asesu. Teimlais yn gyffyrddus iawn wrth egluro fy nghamau Iechyd a Diogelwch ac rwy'n gobeithio bydd asesiadau'r dyfodol yn gweithio allan yr un fath.


Tuswog Welw (Pale Tussock) wedi'i ddarganfod yng nghoedwig Tan y Bwlch


Wrth gadael coedwig Tan y Bwlch, mi wnes i weld lidysyn yn crwydro ar y llawr ac ar ôl ei gasglu ar ddeilen yn ofalus welais fod Tuswog Welw roedd e - fel welwch yn y llun uchod. Hardd iawn!

Ar y Dydd Mercher mi wnes i gyfarfod Jon Foster yn ein Meithrinfa Coed Henfaes er mwyn gwneud bach o gynnal a chadw ar y coed a'r byrddau. Rydym ni yn bwriadu symud nifer o'r hadau sydd wedi ei gasglu i Feithrinfa Henfaes. Ar ôl i'r meinciau cael ei glirio rydym am sefydlu celloedd plannu ar y meinciau ar gyfer yr hadau. Erbyn iddyn ni orffer plannu, mae'n debygol bod 3000 o hadau am gael ei blannu ar y meinciau yn unig!


        Merlen Carneddau yn Nant Ffrancon                 Chwilio am Frain Goesgoch ar Foel Faban

Roedd y dydd Iau yn diwrnod brâf a brysur i mi gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Caffi Carneddau gyda'r nôs. Cychwynais y diwrnod trwy gyfarfod Jack Slattery o'r RSPB a chriw ffilmio er mwyn iddyn ni casglu ffilm Fran Goesgoch. Ydych chi'n cofio o flog blaenorol ble es i ag Eleri am daith i fyny ochrau Nant Ffrancon? Yr un fideo bydd hyn ond o amgylch safle gwahanol - bydd y clipiau gwahanol yn cael ei adio at eu gilydd i greu un fideo mawr am y Fran Goesgoch.

Mi aethom ni ar daith i fyny ar ochrau'r Llefn a Moel Faban er mwyn ceisio gweld mwy o Frain Goesgoch (fel sydd i'w weld yng nghysgod ar y llun dde uchod). Yn anffodus, doedd dim Frain Goesgoch i'w weld ond mi wnaethom ni weld rhywogaethau diddorol a wnaeth rhoi argraff ar Jack:

Boda Tinwyn/Hen Harrier - Circus cyaneus

Clochdar y Cerrig/Stonechat - Saxicola torquatus

Barcud Coch/Red Kite - Milvus milvus

Bwncath/Buzzard - Buteo buteo

Er bod y Fran Goesgoch nunlle i'w weld, roedd hi dal yn brofiad anhygoel i weld adar ysglyfaethus dydym ni ddim yn gweld mor aml. Roedd y Boda Tinwyn yn enwedig o diddorol, rwy'n credu mai gwryw roedd e oherwydd ei bluen las-lwyd i gymharu gyda phluen brown mae'r benyw yn berchen. Gwelwch y cymhariaeth ohonynt yn y llun isod gan Keith Offord (Wild Insights).

Boda Tinwyn Gwryw (uwch) gyda Benyw (îs), Keith Offord

Er wnaethom ni ddim llwyddo gweld Fran Goesgoch, roeddwn ni wedi llwyddo ar daith i weld adar hardd y Carneddau - rhai ohonynt doeddwn i erioed wedi gweld o'r blaen yn enwedig.

Roedd hi wedi bod yn diwrnod hardd yn ffilmio ar gyfer yr adar lleol ond doedd y diwrnod heb ei orffen eto oherwydd roedd Caffi Carneddau yn digwydd yn Nhrefriw yr noson hwnnw. Fel pob digwyddiad Caffi Carneddau, cychwynodd yr noson gydag sgwrs anffurfiol wrth ymyl ein stondinau, ble roedd y cyhoedd yn medru dod i mewn ag allan i ofyn cwestiynau, holi am y Partneriaeth ac i gael paned! Rwyf wedi synnu fy hun faint o gwestiynau rydw i fedru ateb ac yn teimlo bod fy adnabyddiaeth o'r swydd a'r holl waith gyda'r Partneriaid yn cynyddu pob dydd! Roedd Jack Slattery wedi mynychu'r sgwrs hefyd felly roedd hi'n gyfle da iddyn ni gyd-weithio ein gwybodaeth am y Fran Goesgoch i'r cyhoedd. 

Ar ôl y sgyrsiau roedd hi'n amser i'r cyflwyniadau gan gychwyn gyda Beca Roberts, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol i'r Partneriaeth, ble wnaeth hi esbonio amcanion Partneriaeth Tirwedd y Carneddau a chroeso'r gwestai roedd wedi dod i siarad. Fe gyflwynodd Ieuan Wyn darn o'i farddoniaeth o'r enw "Mae'r mynyddoedd yn siarad", ac mi roedd y gerdd yn ysbrydoledig ac uffernol o hardd. Yn dilyn fe wnaeth archeolegydd y Parc Cenedlaethol, John Roberts, trafod am archaeoleg yn y Carneddau a pha waith diweddar sydd wedi cael ei gwblhau, er enghraifft ein claddu am fwyeill Neolithig yn Lanfairfechan (gwelwch blogiau blaenorol).

Hwn roedd fy Nghaffi Carneddau gyntaf ac felly dysgais llawer iawn gan y profiad. Hefyd, cefais y gyfle i gyfarfod nifer o bobl newydd, pe tai'r lleol neu pobl gyda phrosiectau eu hunain ac eto rwyf wedi dosbarthu llawer o gwybodaeth fy hun rwyf wedi dysgu ers i mi gychwyn y swydd.


I orffen yr wythnos, es i ag Eleri ar daith i lawr i feithrinfa coed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Hafod Garregog. Yna, dysgais sut roedden nhw yn brosesu hadau, yn benodol aeron, ac wedi helpu ei blannu ar y cratiau gwrth-lygod. Yn anffodus ar y diwrnod yma wnaeth fy ffôn symudol stopio gweithio ac felly does dim lluniau i ddangos o'r potio a phrosesu - convenient!

Roedd prosesu'r aeron yn diddorol iawn ac mi wnes i ddysgu'r trefn gorau ar sut i'w wneud. Yn gyntaf, mae rhaid gwahanu'r hadau o'r croen trwy ei roi mewn bwced gyda dipyn bach o ddŵr ac wedyn ei daro gyda forthwyl nifer o weithiau nes bod pastwn yn ffurfio. Y cam nesaf yw gwahanu'r croen enfawr o'r gweddill trwy ychwanegu llawer o ddŵr at y bastwn a'i roi trwy rhidyll i fewn i bwced arall. Efallai bydd rhaid gwneud hyn nifer o weithiau. Yn olaf, mae angen gwahanu'r hadau o'r croen bychain sydd yn mynd trwy'r rhidyll a'r holl malurion eraill. I wneud hyn, bu angen tollti'r dŵr yn ôl ac ymlaen i fwcedi nes bod y dŵr yn lleihau drosodd a throsodd, wrth gylchroi'r sylwedd ar y waelod nes bod y malurion yn arnofio ar yr arwyneb. Trwy gadael y dŵr ar yr arwyneb i fynd bob tro mi ddylai bod hadau glân ei adael ar ôl nes diwedd y bwced.

Roedd hi'n diddorol iawn dysgu a gwneud hyn a chefais llawer o hwyl yn ystod y proses - piti does dim lluniau o'r broses!

Diolch am ddarllen fy mlog wythnos yma, welai chi wythnos nesaf!

Oes oes ganddoch chi diddordeb, dyma erthygl byr wedi'i trafod gan Jack Slattery am y gwaith cadwriaethol mae'r RSPB yn gwneud yng ngyswllt gyda'r Carneddau:

Cadwraeth y Carneddau

Comments

Popular posts from this blog

Ta Ta Prentisiaeth :(

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed