Plannu a Chasglu

Rhaeadr Abergwyngregyn Roedd yr wythnos yma llawn casglu a phrosesu hadau, gwrando ar gyflwyniadau gan aelodau cynghorau amgylcheddol â thaith dysgu plant ysgol gynradd. I gychwyn es i lawr i Benrhyndeudraeth i gychwyn fy wythnos gyda'r tîm Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd hi wedi bod yn bythefnos ers i mi weld pawb oherwydd y Digwyddiad Bwyeill Neolithig ac felly roedd llawer i ddal i fyny gyda! Esboniodd Jon Foster eu bod wedi mynd allan nifer o weithiau i goedwig Hafod y Bryn, Llanbedr i wneud bach o gynnal a chadw ac wedi bod ym meithrinfa coed Plas Tan y Bwlch y gweddill o'r amser -- diddorol iawn! Mae llawer iawn o fês a cyll wedi cael eu casglu yn diweddar yn barod am blannu felly dyna roedd y dasg heddiw. Aethom ni a'r sachau yn y cerbyd ac i lawr i'r meithrinfa aethom. Hadau mês wedi'i blannio mewn gelloedd planhigion, Meithrinfa Tan y Bwlch Yna, ym meithrinfa Tan y Bwlch, mi wnaethom ni blannu 8200 o hadau mewn diwrnod! Mae hi'n anhygoel faint o hadau/...