Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!

 

Llun ohonaf yn dysgu plant ysgol am y bwyeill, Llanfairfechan

Roedd wythnos arall o gloddio am fwyeill Neolithig i ddod ac tro yma roedd ysgolion lleol, Capelulo a Pencae wedi ymweld er mwyn dysgu a chael darganfyddiadau eu hunain!

Fe agorodd Jane Kenney, rheolwr y prosiect o'r Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gwynedd (YAG), 3 pyll prawf ar gyfer y plant ei weithio arni trwy tynnu'r haen uchaf o dwndre - fel esbonwyd yn y blog diwethaf.

Yno roedd Dan Amor, Swyddog Addysg ac Allgymorth yr YAG, gyda'r plant ysgol. Fe gyflwynodd Dan gwybodaeth am y bwyeill i'r plant yn eu dosbarthiadau yr wythnos cynt felly fe ddylai'r plant gwybod dipyn am beth roedden nhw'n chwilio am yn barod. Gwelodd nifer o'r blant y siap "Pringle" ar y bwyeill felly roedden nhw'n hyderus iawn i'w ddarganfod!

Dan Amor & John Roberts yn dysgu'r plant am y bwyeill

Roedd pob ddosbarth yn atyniadol iawn ac doedd dim byd gwell na gweld eu wynebau yn goleuo pan roedden nhw wedi darganfod nadd. 

Fe chafodd ni tua 4 o blant yn gweithio ar byll prawf gyda un tiwtor yn ei ddysgu ac yr athrawon yn arsylwi hefyd. Roeddwn i'n gwethio yn yr ail byll prawf rhan fwyaf o'r amser gyda grŵp wahanol o blant bob hanner-dydd. Ym mhob haen roedd rhywbeth diddorol wedi'i weld gan yr plant a fe ddarganfyddodd un o'r grŵpiau rough-out hefyd! 

Un ffordd o helpu'r plant sut i gladdu roedd disgrifio'r proses fel rhoi menyn ar dôst. Roedd rhai blant yn gael trafferth i osoi gladdu allan cerrig fawr felly roedd yr disgrifiad "hwyl" yma wedi aros yn eu penau trwy'r sesiwn! Roedd y gwirfoddolwyr a'r staff yn hoffi fy ddisgrifiad hefyd!

Un o'r disgyblion wedi darganfod naddion yn ei ridyll


Mi roedd y brofiad yma yn un arbenig i mi fel person sydd wedi magu yn lleol ond heb wedi cael y cyfle i ddysgu am yr hanes sydd ar ein stepan drws. Roeddwn i'n hapus iawn cael gweld y plant yn fwynhau'r profiad bydd gennym nhw am byth ac rwy'n gobeithio bod yr wythnos wedi ysbrydoli swyddi'r dyfodol i archaeoleg a gweithio yn y Parc Cenedlaethol yn gyffredinol. Fel welwch yn y llun isod, roedd y plant wedi darganfod llwyth o naddion ac rwy'n gobeithio bod nhw'n adnabod eu cyfraniad tuag at hanes.



Naddion wedi'i ddarganfod gan dosbarthiadau ysgolion gynradd lleol

I orffen yr wythnos, cafodd ni ymwelwr gan BBC Radio Cymru, Aled Hughes. Fe ddoeth Aled i'r maes er mwyn trafod i'r rhaglen beth rydym yn gwneud a faint o bwysig yw'r darganfyddiadau i gael dealltwriaeth o hanes y Carneddau. Fe drafodwyd gydag John Roberts, Archaeolegydd y Parc Cenedlaethol Eryri am y prosiect a'r hanes sydd i weld o flaen Bryn Dinas. Siaradais am bwysigrwydd ymweliadau'r ysgolion gynradd am gadw'r traddodiadau yn fyw ac i ddysgu plant lleol am hanes lleol yn enwedig yn y Carneddau. Yn olaf, fe wnaeth Lowri Roberts, Swyddog Cyfathrebu Parc Cenedlaethol Eryri, siarad am bwysigrwydd Partneriaeth Tirwedd y Carneddau i bobl lleol a beth sydd i ddisgwyl yn y dyfodol yn archaeoleg Cymru. 

Os hoffech gwrando i'r sgwrs dilynwch y linc isod ac ewch ymlaen at 1:10:00 :





Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed