Llun o olygfa Canolfan Sgiliau Coetir, Bodfari: Medi 2021.
Roedd yr wythnos yma un llawn gwybodaeth ar reolaeth coed a lluosogi hadau i dyfu. Es i ar daith o gwmpas coedwigoedd cyfagos i Benrhyndeudraeth i ymweld â goed sydd angen ei dorri ac nes i ddiwedd yr wythnos es i ar gwrs hadau yng Nghanolfan Sgiliau Coetir, Bodfari.
Rwyf wedi dysgu llawer am reolaeth coed ers i mi gychwyn gyda'r Parc felly teimlaf yn (eithaf) hyderus fy mod i'n gallu adnabod coed sydd gyda phroblemau ac angen mwy o adolygiad. Er enghraifft, oes yna bydriad, os yw'r coeden yn bwyso i fwy nag 45 gradd ac os ydy: ydy hi'n digwydd yn naturiol? Ydy tywydd wedi cael effaith arni? Oes yna beryglon?
Aethom ni am dro yng nghoedwig
Plas Tan y Bwlch i weld os roedd yna unrhyw coed neu ganghenion sydd angen ei archwilio.
Llun o goeden Bedwen roedd angen ei archwilio ym Mhlas Tan y Bwlch
Fel sydd ei weld yn y llun uchod, roedd y coeden Bedwen Lwyd, Betula pubescens, yn bwyso dros 45 gradd ar ochr y llwybr cyhoeddus ac roedd hi'n dangos potensial disgyn yn y dyfodol. Wrth edrych ar waelod y goeden, roedd tystiolaeth ei fod wedi symud i gyfeiriad y llwybr yn ystod y flynyddoedd diwethaf ac felly mae risg uchel iddo barhau i symud. Roedd angen y coeden yma cael ei recordio a'i adolygu ar gyfer gwaith yn y dyfodol agos. Welais bod y gwreiddiau a phwysau'r coeden dal yn gryf ac felly doedd ei ddim am ddisgyn i lawr yn "hawdd" ond mae'r risg dal yno. Fe dynnodd Jon Foster lluniau o'r coeden gydag Gwion wrth ei hymyl fel arwydd o'r ongl.
Fe caiff yr coeden ei hasesu yn ôl yn y swyddfa cyn i'r tîm dod draw i'w dorri i lawr.
Amethyst Deceiver, Laccaria laccata Beechwood Sickener, Russula nobilis
Mae ganoedd o rywogaethau ffwng i'w weld yng nghoedwig Plas Tan y Bwlch hefyd. Wrth i ni archwilio coed yno, aethom ni ar draws rhywogaethau hardd a diddorol. Welais Amethyst Deceiver a Beechwood Sickener (a nifer eraill heb ei roi yn y blog yma) fel welwch yn y lluniau uchod. Mae'n diddorol i weld faint o amrywiaeth ffwng sydd ei weld yn y Parc Cenedlaethol ac mae'n cynhyrfus i mi ddysgu am yr rheini doeddwn i ddim yn gwybod am o'r blaen.
*Bach o Iechyd a Diogelwch: Peidiwch â chyffwrdd/bwyta unrhyw madarch rydych yn gweld os nad ydych yn gwybod beth yw e. Mae
Amethyst Deceiver yn fwytadwy ond sicrhewch rydych gyda'r rhywogaeth cywir gyntaf*
I orffen fy wythnos gyda'r Parc Cenedlaethol, aeth Jon â ni i ymweld â'r Ysgwrn - sef tŷ brodorol Hedd Wyn yng Nghwm Prysor, Trawsfynydd. Mae'r Parc yn gyfrifol am y coed ar y maes ac felly aethom ni yno i ddysgu am ein gyfrifoldebau fel gofalwyr (yn ogystal ag ymweld hanes Hedd Wyn!). Dysgais bod y Parc wedi cyfrannu tuag at y fferm ar y maes trwy rhoi Tô Gwyrdd ar ben lloches newydd. Y pwrpas roedd ychwanegu bioamrywiaeth i'r maes ac gwneud iddo edrych fel rhan o'r tirwedd o'r golygfa. Cafodd ni sgwrs am y pryderon o'r goeden Derw sydd tu allan i'r Ysgwrn a beth yw'r risgiau posib. Mae'r coeden dros 100 mlwydd oed ac dal i gadw'n gryf, ond pe tai broblemau yn y dyfodol esbonwyd Jon am y gwaith posib fedrith nhw gwneud. Mi wnes i ddysgu am y gwahaniaeth rhwng Crown Reduction a Crown Thinning. Mae'r reduction yn golygu cael gwared o dua 30% o'r ganopi ac mae'r thinning yn golygu cael gwared o'r DDD (Dead, Dying & Dangerous) trwy cynhyrchu tyllau i'r gwynt mynd trwadd yn lle ei daro.
I orffen yr wythnos, es i am gwrs wedi'i wahodd gan
Llais y Goedwig a
Choed CADW. Pwrpas y digwyddiad/cwrs roedd dysgu am sut i ofalu a tyfu eich hadau yn gywir. Roeddwn wedi dysgu llawer yn barod trwy gweithio ym meithrinfeydd y Parc Cenedlaethol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol felly roeddwn i'n awyddus i weld beth arall roedd yna i ddysgu.
Llun ohonaf, Eleri a Gwion ar y ffordd i'r Cwrs Hadau
Roedd llawer o wybodaeth wedi'i ddosbarthu ar y mathau o goed sy'n bosib i'w dyfu yng Nghymru a beth roedd yr hanes yr rheini roedd yn frodorol neu o dramor. Dysgais ffeithiau diddorol ond frawychus ar y mathau o goed bydd rhaid i ni dyfu. Yn ôl geiriau Steve, yr arweiniwr, mae bosibilrwydd bydd rhaid i'r sefydliadau cadwriaethol cychwyn plannu coed sydd yn medru dioddef y newid mewn tymheredd sydd i ddod yn y 50 mlynedd nesaf. Cymharwyd bod tywydd Cymru am fod yn debyg i dywydd Dê Ffrainc megis yr 2050au! Bydd coed fel Castanwydden Bêr, Castanea sativa, am fod yn goeden mwy addas i blannu yn y dyfodol.
Mae'r ffeithiau yma yn drist wrth gwrs, ond os rydym eisiau cadw bioamrywiaeth a chynefinoedd yn fyw yn y dyfodol, mae rhaid meddwl am yr effeithiau tymor-hir: Hyd yn oed os yw hynny'n golygu plannu coed sydd ddim yn frodorol i Gymru.
Trafodwyd Steve wedyn am y ffyrdd gorau i baratoi eich hadau cyn blannu. Esbonwyd bod rhaid torri'r cysgiad (dormency) yn gyntaf er mwyn iddyn nhw "feddwl" bod yr Gaeaf wedi bod. Y ffordd gorau i'w wneud hyn i'w rhoi mewn oergelloedd ar ôl gasglu neu ei roi mewn amodau gwlyb - bydd hyn wedyn yn rhyddhau'r gwreiddyn cyntaf (y radical) ac bydden nhw wedyn yn barod i'w blannu yn yr ail-Gwanwyn. Mi wnes i ddysgu llawer o wybodaeth newydd ar y diwrnod yma ac rwy'n cyffyrddus i fynd allan i hel hadau fy hun a'i dyfu'n llwyddiannus nawr. Rwyf hefyd yn deimlo'n hyderus i esbonio i ffrindiau a theulu sut i'w wneud hefyd sydd yn lwyddiant mawr i mi fel Prentis.
Daeth yr wythnos waith i ben gydag llawer o wybodaeth newydd am goed a hadau yn fy ymenydd. Roedd dim ond un dasg arall angen ei wneud cyn adael:
Gwennol y Tŷ/ House Martin
Cafwyd
Gwennol y Tŷ uchod ei ddarganfod ar lawr y maes parcio tu allan i Fwthyn Ogwen. Roedd llawer o widdon arno ac edrychodd ei fod mewn boen ar un adain. Ar ôl cael gwared o'r gwiddon, rhoddwyd yr aderyn mewn bocs gyda ddŵr a lliain cynnes ac gan ddilyn cyngor yr RSPB mi wnaethom ni roi o ar ben silff uchel fel ei fod yn medru fflio gyda bach o "run-up" pan mae'n barod. Gofynnais am ddiweddariadau ar y Ddydd Llun nesaf gan Eleri!
Comments
Post a Comment