Plannu a Chasglu
Rhaeadr Abergwyngregyn
Roedd yr wythnos yma llawn casglu a phrosesu hadau, gwrando ar gyflwyniadau gan aelodau cynghorau amgylcheddol â thaith dysgu plant ysgol gynradd.
I gychwyn es i lawr i Benrhyndeudraeth i gychwyn fy wythnos gyda'r tîm Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd hi wedi bod yn bythefnos ers i mi weld pawb oherwydd y Digwyddiad Bwyeill Neolithig ac felly roedd llawer i ddal i fyny gyda! Esboniodd Jon Foster eu bod wedi mynd allan nifer o weithiau i goedwig Hafod y Bryn, Llanbedr i wneud bach o gynnal a chadw ac wedi bod ym meithrinfa coed Plas Tan y Bwlch y gweddill o'r amser -- diddorol iawn!
Mae llawer iawn o fês a cyll wedi cael eu casglu yn diweddar yn barod am blannu felly dyna roedd y dasg heddiw. Aethom ni a'r sachau yn y cerbyd ac i lawr i'r meithrinfa aethom.
Hadau mês wedi'i blannio mewn gelloedd planhigion, Meithrinfa Tan y Bwlch
Yna, ym meithrinfa Tan y Bwlch, mi wnaethom ni blannu 8200 o hadau mewn diwrnod!
Mae hi'n anhygoel faint o hadau/coed sydd yn medru cael ei blannu mewn diwrnod. Meddyliwch am yr goedwig bychain sydd o'ch blaen wrth blannu hadau. Mae hi'n teimlad balch iawn.
Ar y ffordd adref, dangosodd Jon perllan afalau'r Parc Cenedlaethol i Gwion a fy hun. Roedd hi'n hyfryd iawn a gwellau byth yr afalau goraf rwyf wedi blasu (es i dipyn adref!).
Fe wnes i wario'r Dydd Mawrth yng Ngholeg Cambria mewn Digwyddiad Cynaladwyedd ble wnaeth yr Prentis blwyddyn diwethaf, Eleri Turner, yn un o'r gyflwynwyr. Roedd y digwyddiad llawn bobl o sefydleoedd amrywiol ar draws Gogledd Cymru ac roedd pob un yn sôn am sut mae eu cwmni yn parhau i weithio'n gynaliadwy a beth sydd i ddod ganddyn nhw yn y dyfodol. Fe wnes i ddysgu llawer gan gynghorau a phartneriaid i warchod cynefinoedd a chymunedau lleol yn ogystal â chael yr cyfle i wneud cysylltiadau gyda ein Phrosiect y Carneddau. Dysgais am ymdrechion gofalwyr gwenyn am beillio; sut mae cynghorau lleol yn addasu i droi tirwedd gwag yn dolydd; pwysigrwydd a gwaith trinio perthi ac yn enwedig beth sydd i ddisgwyl gan Prentisiaeth Cadwraeth ac Amaeth gan Eleri, wrth gwrs.
Eleri Turner, yn gyflwyno am Brentisiaeth Cadwraeth ac Amaeth
Tydi hi ddim yn sioc bod roedd cyflwyniad Eleri yn help enfawr i mi i weld beth sydd i ddod yn y blwyddyn nesaf. Roedd hi hefyd yn gyfle i mi adolygu beth wnaeth Eleri blwyddyn diwethaf ac sut rydw i'n disgwyl y prentisiaeth fod yn wahanol i mi. Mae'n bwysig i mi gofio bod dyna yw un o bwrpasau'r Prentisiaeth: cael beth rydw i eisiau allan ohono. Llwyddodd Eleri i derbyn swydd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ôl iddi gorffen yr Prentisiaeth, sydd yn anhygoel. Rwy'n gobeithio erbyn blwyddyn nesaf byddwn yn derbyn cynigion swyddi fy hun, ond eto mewn gyswllt â fy niddordebau penodol.
Erbyn diwedd y cyflwyniadau roeddwn wedi dysgu llawer mwy am y gwaith sydd i'w wneud mewn cymunedau lleol i mi, er enghraifft yng Nghyffordd Llandudno ac ochrau Llanelwy. Un peth gwerthfawr roedd y nifer o fyfyrwyr coleg yn dod atom i drafod am y prentisiaeth a beth sydd i ddisgwyl os ydyn nhw yn ystyried ceisio blwyddyn nesaf. Mi wnes i ag Eleri ateb digonedd o gwestiynau diddorol a ysbrydoledig i berswadio i'r myfyrwyr i gychwyn gweithio neu gwirfoddoli yn y maes nawr a chynyddu eu profiadau gwaith cyn iddyn nhw gadael coleg am swyddi llawn-amser.
Mi wnes i hefyd rhoi nudge bach iddyn nhw darllen y blog yma i weld beth rydw i'n gwneud yn wythnosol felly os wnes i siarad i chi a rydych yn darllen y darn yma -- sut mae'r gwirfoddoli yn mynd????
Ysgol San Siôr yn Abergwyngregyn ar ôl hel hadau i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Ffocws gweddill yr wythnos gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol roedd casglu hadau. Mi wnes i ag Eleri mynd ag Ysgol San Siôr i Abergwyngregyn ar lwybr i fyny i'r Rhaeadr er mwyn casglu hadau iddyn ni blannu yn ein meithrinfa - fel welwch yn y llun isod.
Roedd hi'n gwych iawn cael y plant yn gynhyrfus am gasglu hadau ac i ddysgu am yr holl broses er mwyn creu coedwigoedd. Cefais profiad o dysgu rhywun arall am goed ac hadau hefyd, yn lle fi bod yr disgybl, ac roeddwn i wedi synnu fy hun gyda faint roeddwn i'n gwybod am yr coed a'i hadau - mae gwersi a profion Jon Foster wedi fy hyfforddi i hyn! Wnaeth yr ysgol casglu bocs llawn hadau erbyn diwedd y diwrnod a chefais profiad anhygoel o weithio gydag ysgolion lleol. Rwy'n gobeithio bydd mwy o gyfleoedd i mi wneud hyn yn yr wythnosau i ddod.
(Ar y ddê, yr holl hadau a chasglwyd gan Ysgol San Siôr yn Abergwyngregyn yn barod i'w drefnu a phrosesu)
Ar ôl cyfnod bach o wneud gwaith coleg roedd yr wythnos gwaith bron wedi dod i ben, ac am wythnos brysur ac anhygoel iawn. Gwariais fy Nydd Gwener fel arfer gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ble roedden ni angen drefnu hadau Ysgol San Siôr ac hefyd prosesu hadau Coed Afalau Surion wnes i ag Eleri casglu yr wythnosau cynt. Roedd y tywydd yn frwnt, yn wyntog a glawiog iawn felly roedd trefnu hadau o flaen y tân yn cyfnod therapiwtig iawn.
Aethom ni lawr i Flaen y Nant i dynnu'r hadau o'r afalau ond anffodus roedd nifer wedi cael eu dinistro gan bryfaid. Fe wnaethom ni arbed beth roeddwn ni'n gallu ond ar yr ochr positif roedd nifer o afalau ar ôl i fwydo'r gwartheg!
Gwartheg Blaen y Nant yn bwyta'r afalau surion
Wythnos hyfryd arall wedi dod i ben ac rwyf yn edrych ymlaen at wythnos nesaf gan fod Cylchdaith y Carneddau yn Nhrefriw yn dod i fyny yn ogystal â fy asesiad cyntaf gan fy nhiwtor Coleg Cambria.
Diolch am ddarllen am y tro, welai chi wythnos nesaf!
Comments
Post a Comment