Beth ddigwyddodd i'r helmed?
Gwartheg Du Cymraeg wedi cyrraedd ym Mlaen y Nant, Nant Ffrancon.
Os rydych wedi darllen y blog diwethaf: Roedd Gwennol y Tŷ wedi gadael y nyth ffug dros y benwythnos ac doedd dim arwyddion ei fod wedi disgyn i nôl ar lawr felly rydym yn hyderus ei fod wedi adfer a dychwelyd adref.
Roedd hi'n wythnos brysur ar ochrau'r Parc Cenedlaethol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wythnos yma gyda choed angen cael ei dorri i lawr a gwartheg newydd ar dir Blaen y Nant yn Nant Ffrancon!
Fel arfer, cychwynais yr wythnos gyda Jon Foster i lawr ym Mhenrhyndeudraeth ble roedd angen i goeden wedi marw ei dorri i lawr - gan Sam un o'r gontractwyr gyda chymhwyster mewn dringo a chainsaw. Roedd hi'n anodd dyfalu rhywogaeth y goeden oherwydd ei fod wedi colli pob arwydd o fywyd, ond credaf mai Bedwen Lwyd, Betula pubescens, roedd hi. Roedd hefyd angen dynnu planhigion brodorol a canghenion coed Bedw îs ymlaen o lwybr cyhoeddus gan ei fod yn tarfu ar lwybr cerbydau y tai cyfagos. Helpais trwy dorri'r ganghenion gyda'r offer cywir, ei hystyn a'i roi i fewn i'r peiriant chippio.
Yr "Cyn" ac "Ar ôl" o'r goeden Bedwen a chafodd ei dorri i lawr ym Mhlas Tan y Bwlch
Fel welwch yn y cymhariaeth uchod, roedd y golygfa a diogelwch y maes llawer gwell ar ôl dorri'r coeden i lawr. Bydd y pren yn cael ei dorri fyny a dosbarthu i aelodau'r Parc sydd eu hangen a bydd gweddill y coeden a'r canghenion yn cael ei adael i bydru'n naturiol.
Roedd angen i mi adael ar gyfer cyfarfod am awr yn ystod hwyldeb y torri a phan gyrhaeddais yn ôl roedd Gwion, un o'r wardeiniaid newydd y Parc Cenedlaethol, yn edrych braidd yn "sheepish".
Gwelwch pam:
Mewn awr o ddynes gadael y safle, roedd fy helmed wedi cael ei grusio gan y peiriant chippio. Lwcus chafodd neb ei frifo ond mi wnai feddwl ddwy-waith tro nesaf cyn adael yr dynion "un-supervised". Yn jocian wrth gwrs, ond mi gai Gwion yn ôl am fy helmed...
Roedd un goeden arall angen cael ei archwilio ar y maes cyn i mi ddiflannu gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am weddill yr wythnos. Roedd coeden mewn llawer o risg o ddisgyn ar y lôn fel welwch yn y llun isod:
Coeden yn amlwg gyda phwysau dros 45 gradd yn wynebu'r lôn
Roedd y coeden yma yn amlwg yn beryglys i'r cyhoedd a'r ffordd y lôn os yw'n ddisgyn oherwydd ei fod yn bwyso'n fwy na 45 gradd. Wrth edrych ar waelod y goeden roedd hefyd tystiolaeth fod y pwysau yn diweddar ac roedd posibilrwydd ei fod am ddisgyn yn nhywydd drwg nesaf. Felly roedd angen ei ddelio.
Mae Gwion gyda rai gymhwysterau mewn chainsaw ac felly roedd hyn yn gyfle da iddo dysgu gan Sam am y ffyrdd orau i dorri lawr coeden fel hyn. Roeddwn i'n gyfrifol am gadw'r ffordd yn glir o'r cyhoedd a defnyddio'r peiriant chippio ar gyfer y canghenion yn gyntaf. Ar ôl hynny, sefais i astudio beth roedd Sam yn dysgu gan fy mod am wneud cwrs chainsaw yn y dyfodol. Cafwyd y goeden ei dorri lawr yn gyflym ac yn ddiogel.
Os edrychwch ar llun cyntaf y blog welwch bod Gwartheg Du Cymraeg wedi cyrraed i Flaen y Nant o'r diwedd! Mor ciwt! Rydym wedi cael 6 ar gyfer y caeau yn barod ar gyfer y Pori Cadwriaethol (a esbonwyd yn y blog diwethaf). Mae'r gwartheg barod yn chwareus a chwilfrydig ac felly mae'n nhw wedi setlo yn neis ar gaeau Nant Ffrancon!
Mi wnes i wario llawer o fy amser Ymddiriedolaeth Genedlaethol wythnos yma yn casglu hadau a gwneud gwaith cwrs felly yn anffodus does dim lluniau i ddangos. Roedden ni'n baratoi ar gyfer Gwŷl Afon Ogwen ar y benwythnos ac felly creuais taenlen Adnabod Hadau ar gyfer y plant a'r pobl lleol.
O'r Chwith i'r Dde: Charlotte, Fi ac Eleri yng Ngwŷl Afon Ogwen
Roedd y Gwŷl yn un llwyddiannus iawn. Ddoeth nifer o aelodau'r cyhoedd a blant ysgol draw i gasglu bag o hadau ym Mharc Meurig - ac fel anhreg ar ddiwedd roedden nhw'n gael "good-bag" o marsiandiaeth Prosiect y Carneddau yn ogystal â Paent Wyneb (Fel welwch ar yr aelodau staff hardd uchod). Hyn roedd y Gwŷl cyntaf i mi fel Prentis yn gynrychioli'r Parc Cenedlaethol felly roedd hi'n brofiad pwysig a hwyl i mi gael rhannu fy ngwybodaeth a straeon gyda'r cyhoedd yn fy nghartref Bethesda.
Llun o stondin Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn Gwŷl Afon Ogwen
Roeddwn i wedi cael wythnos hwyl iawn yn y Prentisiaeth ac wedi dysgu mwy a mwy. Rwyf yn barod am yr wythnos nesaf ble fyddaf yn cychwyn gyda'r Digwyddiad Bwyeill Neolithig yn Lanfairfechan am bythefnos felly cadwch golwg!
Comments
Post a Comment