Claddu Bwyeill Neolithig!
Hanes y Bwyeill Neolithig
Mae'r Bwyeill yn ran o hanes anhygoel o'r oes Neolithig. Cafwyd yr maes claddu yn Lanfairfechan ei arddu yn gychwyn y 1960au a ddarganfyddwyd y gweithwyr darnau o fwyeill roedd wedi bod yno ers tua 6000 o flynyddoedd. Cafwyd yr maes ei roi o dan sylw ac mae llawer mwy o ddarganfyddiadau wedi bod ers.
Felly beth yw'r Bwyeill arbennig yma?
Mae'r bwyeill wedi cael ei greu o garreg gwydn folcanig sydd dim ond i'w ddarganfod mewn llefydd penodol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r ardaloedd yn gynnwys: Graiglwyd, Garreg Fawr, uwchben Tyddyn Drycin ac wrth gwrs Dinas, Llanfairfechan. Roedd nifer o bwrpasau i greu bwyeill ond mae'r ganlyniadau yn amrywiol. Cafodd eu defnyddio gan y "ffermwyr cyntaf" er mwyn glirio coed ac effeithio tiriogaethau ar ardrawiad isel gan glirio ac adfywio dros cyfnod amser byr. Roedd hefyd bwrpasau hela ac bwyta trwy dynnu croen oddi ar gig, cwffio a lladd anifeiliaid.
Un o fy hoff bwrpasau'r bwyeill yw'r argraff ysbrydol ac anrhegol a oedd wedi'i basio lawr o genhedlaeth i genhedlaeth. Cafwyd y bwyeill ei basio i lawr gan hynafiaid fel symbol o bwysigrwydd y person ac rydym yn ei ddarganfod mewn llawer o safleoedd defod ar ôl cael ei ddinistro'n bwrpasol fel aberth. Mae'r bwyeill o'r ardal Llanfairfechan yn cael eu darganfod ar hyd y Deyrnas Unedig, sydd yn arwydd arall bod nhw wedi teithio am flynyddoedd trwy'r genhedlaethau.
Cafodd y bwyeill ei dylunio, siapio a'i sgleinio mewn safleoedd penodol o gwmpas y maes a welwch y newidiadau yma trwy'r naddion rydym yn gloddio heddiw. Fe wnaeth y gweithwyr naddu ar y garreg i fewn i'r siap cywir a bu'r gormodedd yn hedfan o gwmpas waelod y gweithle. Weithiau, byddent yn taro'r garreg yn anghywir neu bod camgymeriadau wedi achosi i'r bwyeill fod yn annefnyddiadwy ac felly roedd y garreg wedi'i waredwyd. Gelwir rhain yn "rough-outs" ac maent yn cael i ddarganfod ar hyd y safle.
Mae'r bwyeill wedi cysylltu cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig, felly mae'n bwysig ein bod yn cofio eu harbenigrwydd i'r genhedlaethau i ddod.
Yr Wythnos Cyntaf: Gwirfoddolwyr
Roedd pythefnos o gladdu i ddod ar gyfer y digwyddiad ac yn ystod yr wythnos cyntaf cafwyd yr maes digonedd o wirfoddolwyr i helpu'r archeolegwyr darganfod naddion. Jane Kenney roedd yn rhedeg y digwyddiad fel Rheolwr y Prosiect, Ymddiredolaeth Archaeolegol Gwynedd, gyda chymorth a gwaith John Roberts, Archeolegydd y Parc Cenedlaethol Eryri.
Cychwynom gyda phyllau prawf ar mannau penodol dewisiodd Jane gyda 2, 3 neu ella 4 o wirfoddolwyr mewn pob un (yn dibynnu ar faint y pyll). Yn gyntaf roedd angen codi'r twndre (haen gwair ar y top) ac wedyn cychwyn claddu'r haen cyntaf o bridd newydd o'r arddu. Yn dibynnu ble roeddwn ni ar y bryn, roedd yr haen cyntaf yn mynd i lawr tua 1 metr cyn cyrraedd yr haen nesaf o dir mwy naturiol - roeddwn yn medru gweld yr newid mewn lliw o frown tywyll i frown-oren.
- Top y nadd yn fflat gan fod dyna ble tarodd y gweithiwr.
- "Bulb" ble roedd pwysau'r taro wedi achosi'r darn top yn fwy trwchus na'r gwaelod - yn achosi siap wedi'i blygu ac yn denau ar y gwaelod (disgrifiodd yr archaeolegydd fel Pringle!).
- Unrhyw cribau ar ochr y nadd sydd yn arwydd o siapio.
Comments
Post a Comment