Beth yw Partneriaeth Tirwedd y Carneddau?
Pwrpas Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yw sicrhau bod yr ardal o 220km sgwar ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn cael ei amddiffyn. Mae rhywogaethau a chynefinoedd yn barhau i fod mewn peryg o ddiflannu gyda'r cynyddiad mewn newid yn yr hinsawdd ac felly un o'r prif amcanion y Partneriaeth yw sicrhau bod ein tiriogaethau Cymraeg yn bodoli i'r genhedlaethau nesaf.
Mae'r ardal yn gynnwys y 'Carneddau' wrth gwrs, sef mynyddoedd seiliedig i Ogledd Cymru sydd yn ymestyn hyd at 1000 troedfedd. Mae'n hefyd gartref i ddau o'r pum copa dros 3000 troedfedd yn Eryri. Y mynyddoedd amlwg yma yw Carnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn - wedi'u henwi gan Llywelyn ap Gruffydd a'i frawd Dafydd ap Gruffydd (tywysog olaf brodorol Cymru).
Mynyddoedd eraill sydd i'w gynnwys yw:
Pen yr Ole Wen, Yr Elen, Y Garn, Foel Grach, Foel Fras a Charnedd Gwenllian.
Rhain yw'r ucheldiroedd uchaf yng Nghymru.
Yn gynnwys gyda'r mynyddoedd hardd yw'r anifeiliaid a'r bywyd gwyllt sydd i fyw ym maes y rhywogaethau amrywiol. Y rhywogaethau mwyaf poblogaidd yw'r Merlod sy'n frodorol i'r Carneddau, Lili'r Wyddfa, ac wrth gwrs y Fran Goesgoch eiconig.
Felly sut cafwyd y Partneriaeth ei sefydlu?
Un air o awgrymiad yw 'Partneriaeth' yn nheitl y sefydliad. Maent yn bartneriaeth o sefydliadau sydd yn gweithio ar gynllun 5 mlynedd i'r amcanion uchod. Caiff y sefydliadau yma eu harwain gan Barc Cenedlaethol Eryri ac bydd y cynllun yn helpu hyrwyddo dyfodol positif i'r Carneddau.
Cafwyd grant o £1.7 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ei roi i'r Bartneriaeth ar gyfer y gweithredau. Cyfanswm gwerth y cynllun yw £4 miliwn dros y 5 mlynedd nesaf.
Sefydliadau Craidd Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yw:
- Yr Ymddiriodolaeth Genedlaethol
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Awdurdod Parc Cenedaethol Eryri
- Cymdeithas Eryri.
- CADW
Sefydliadau sydd yn Gyflawni'r Partneriaeth yw:
- Prifysgol Bangor
- Cyngor Gwynedd
- Cymdeithas Enwau Lleoedd
- Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd
- RSPB .... a llawer mwy!
Comments
Post a Comment