Traeth yng Nghwm Idwal?


Llun o Gwm Idwal gan Alan Novelli


Mae hi wedi bod yn wythnos diddorol arall wrth bwys y Carneddau gyda'r Parc Cenedlaethol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fel arfer, cychwynais yr wythnos gyda'r Parc Cenedlaethol, gyda llawer o chwynnu i'w wneud yn ein meithrinfa coed yn Henfaes, Abergwyngregyn. 


Cymhariad o gyn-chwynnu ac ar ôl chwynnu coed Derw Saesneg, Henfaes

Fel welwch yn y lluniau uchod, roedd lot o waith chwynnu i wneud ar y coed Derw Saesneg yn y meithrinfa. Roedd y coed wedi'i gorchuddio gan gor-dyfiant o chwyn ac felly roeddent yn gystadlu am adnoddau fel golau haul ac dŵr. Roedd y chwyn wedi cymeryd drosodd gymaint roedd hi'n anodd iawn i ddarganfod y coeden yn y potyn ac felly roedd rhaid unai tynnu'r chwyn o'r potyn neu ei dorri gyda secateurs. Bu'r coed yma yn barod i gael ei ddosbarthu i Ymddiriedolaeth Coetir (Woodland Trust) yn ystod y flwyddyn nesaf. 

Mi ddarganfyddais lot o fywyd gwyllt wrth chwynnu fel lindys, sboncen y gwaith, llawer o wyfynod ac hefyd teulu o lygod bach. Os edrychwch yn ofalus ar y llun ar y dde uchod, welwch gadawais dipyn o botiau wrth ymyl o polytunnel er mwyn gadael y teulu o lygod i fod. Ciwt!

Yng nghanol y gwaith chwynnu, es i lawr i ein prif swyddfa ym Mhenrhyndeudraeth i gael trafodaeth am fy ngwaith cwrs Coleg yn ogystal a siarad gyda aelodau staff BBC Radio Cymru. Gofynwyd i mi gwneud sgwrs ar sioe Aled Hughes ar y 29ain o Awst ac felly roeddwn i'n cynhyrfus iawn i gymeryd rhan!

Mi aeth weddill fy amser gyda'r Parc Genedlaethol yn eithaf sydyn wythnos yna, a chyn i mi wybod roed hi'n amser i mi wario dipyn o amser gydag Eleri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ogwen.

Tynnu ffens i lawr yn Tal y Braich (Uchaf) gydag Eleri

Eglurodd Eleri ei fod wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr wythnos yn tynnu i lawr ffens hen o caeau yn Tan y Bwlch ac roedd llawer o waith caled i hi a Geth ar gychwyn yr wythnos. Heriodd bod ddylai newid yn ôl i Ddydd Llun a Mawrth yn lle! Roedd darn bach o'r ffens angen cael ei dynnu i gwblhau'r swydd felly o leiaf roedd gallu i mi helpu gyda hynny. Ar ôl gwers sydyn gan Eleri, roedd hi'n swydd hawdd i mi dynnu hoelion o'r ffens a tynnu'r postynau. Cafwyd Eleri's swydd o rolio'r prif gwifrennau'r ffens i fyny. 

Ar ôl bore hardd o dynnu'r ffens, aethom ni i lawr at Meithrinfa Blaen Nant i gael golwg ar sut mae'r coed. Yn anffodus, roedd y tanc dŵr ddim yn derfyn llif o'r afon ac felly aethom ni am dro fyny'r afon i weld beth roedd y broblem. Ar ôl dipyn o chwarae gyda taldre'r peipen a llif y dŵr (a glychiad o fi ag Eleri) roedd y dŵr yn llifo yn ôl i'r tanc ac felly roedd y system dyfrio wedi'i trwsio i'r meithrinfa. Saff i ddweud roedden ni'n dripian am weddill y diwrnod.

Taith o Gwm Idwal gan Mike Raine

Ar y Ddydd Gwener aethom ni ar daith o gwmpas Cwm Idwal gan fforiwr ac awdur o Nature of Snowdonia Mike Raine. Roedd y grŵp yn gynnwys aelodau Caru Eryri yn ogystal a rhai aelodau'r cyhoedd oedd gyda diddordeb mewn dysgu am Gwm Idwal a'r filoedd o rywogaethau sydd i'w weld yno. 

I ddyfynnu Mike: "Cwm Idwal may be the most diverse landscape in Britain because of the enormous range of species seen here... It is truly incredible".

Mae Nature of Snowdonia yn lyfr ar gyfer ymchwilwyr Eryri sydd gyda diddordeb o fynd am dro yn cerdded llwybrau'r Parc Cenedlaethol ac sydd eisiau dysgu mwy am y rywogaethau sydd i'w weld yno. Rydw i newydd archebu'r llyfr!

Dysgais llawer am y symudiadau rhewllifol yn ystod Oes yr Iâ sydd yn gynnwys sut mae darnau mawr o gerrig sydd i'w fod ar ben mynyddoedd i lawr yn y Cwm. Eglurodd Mike bod efallai bod y cerrig wedi disgyn i lawr o'r mynydd, ond doedd dim llinell i'w hynny digwydd, felly roedd rhaid bod y cerrig wedi cael eu symud gan rhew. Roedd theori Charles Darwin o Rewlifiant wedi'i drafod gan fod y gwyddonwr wedi sefyll yn yr un mannau â ni! Esboniodd Mike yn debyg i theori Darwin, mae'n debygol bod rhew wedi'i toddi a'i ail-rhewi. Bu hyn yn achosi pwysedd anhygoel ar y cerrig a'i achosi i'w ffrwydro. 

Dangoswyd Mike llinellau ar y cerrig a oedd yn edrych fel ffrydiau ac fedrith hyn bod o darnau o'r rhewlif yn symud yn gyflymach na darnau eraill. Pwy fuasai'n meddwl bod llinellau mewn cerrig yn gallu dangos symudiadau o filoedd o flynyddoedd yn ôl? Rwy'n clywed y Daearegwyr yn chwerthin.

Carreg a oedd yn "traeth" ar ben y rhewlif uwchben Llyn Idwal

Roedd y darn nesaf o garreg yn un diddorol iawn i mi - hence enw'r blog yma. Esboniodd Mike bod blynyddoedd yn ôl roedd rhaid bod traeth ar ochr y rhewlif uwchben y Glyderau. Bod roedd y dyffryn yn arfer fod ar waelod y mor ac ar ôl filoedd o flynyddoedd o ffrwydradau ynysoedd folcanig wrth ymyl platiau, roedd dŵr y môr wedi'i gwthio yn ôl ac dangoswyd gwaelod y môr ar gerrig fel yr uchod.

Os welwch yn ofalus ar y garreg yn y llun uchod, welwch swiglau o'r tonnau ar y garreg sydd am aros yno am byth i ddangos hanes yr ardal yn ystod Oes yr Iâ. Teimlaf bod hyn yn anhygoel ac yn wybodaeth arwyddocaol i rhywun sydd wedi bod yn lleol i Gwm Idwal fy holl fywyd, ac wedi erioed gwybod hyn. 

Ar ôl taith i fyny i (bron) Twll Ddu gydag nifer o stopiau yn edrych ar blanhigion gwahanol, cychwynnodd Mike sôn am rywogaethau gwahanol sydd i'w weld yn yr Alpine i gymharu gydag waelod y Cwm. Un ffaith diddorol dysgais bod Lili'r Wyddfa wrth gwrs yn brin yng Nghymru ac yn boblogaidd iawn ond ar y cyfan yn rhyngwladol mae Saxifrage Piws yn fwy brin ond dim mor boblogaidd. 
                                                                                                                                    Llun o Saxifrage Piws gan Laurie Campbell

Ar ôl mwy o ddysgu ar y ffordd i lawr fe aethom ni i fewn i un o'r safleoedd a oedd wedi'i ffensio o borwyr ers y 70au. Roedd hi'n anhygoel i weld y tyfiant o rywogaethau amrywiol yn yr safle yno a hefyd yn diddorol i weld beth fedrith y Cwm cyfan edrych fel yn y degawdau nesaf. Eisteddom i lawr i gael sgwrs ac i fyta llys fel wobr o'r taith i fyny. Mi wnaethom ni gael trafodaeth gyda barnau gwahanol o beth "ddylai'r" Cwm edrych fel ac roedd hi'n diddorol clywed beth roedd pawb arall yn ei feddwl.

Llun o aelodau'r grwp yn eistedd yn y Grug yn bwyta llys

Wedi hynny, aethom yn ôl i lawr at gychwyn y llwybr i drafod 3 peth newydd rydym wedi dysgu yn ystod y diwrnod o deithio i fyny Cwm Idwal. Fy nhair peth roedd:

1. Bod roedd traeth uwchben y Glyderau miloedd o flynyddoedd yn ôl
2. Bod Saxifrage Piws yn fwy brin na Lili'r Wyddfa
3. Beth yw Olew y Gors (Bog Oil)

Doeddwn i erioed wedi clywed am Olew y Gors o'r blaen ond rwy'n sicr rwyf wedi ei weld. O hyd wrth teithio ar lwybrau'r Parc Genedlaethol, rwyf wedi dod ar draws sglêr yn nŵr rhwng cerrig y llwybrau ond erioed wedi meddwl llawer amdano. Dysgais gan Mike mai Olew y Gors yw hi, enw swyddogol yw Leptothrix discophora. Mae microbau yr organeb yn bwydo ar haearn ac yn achosi i gerrig cyfagos cychwyn pydru. Gwelwch llun isod:

Llun o'r Leptothrix rhwng cerrig ar lwybr Cwm Idwal

Roedd y taith yma yn un addysgiadol, diddorol a hwyl iawn ac rwy'n hapus cefais y gyfle i gyfarfod Mike Raine, aelodau staff Caru Eryri a chyfarfod pobl newydd ar y taith. Roeddwn i wedi dysgu llawer o bethau newydd am yr ardal cefais fy magu ac yn hapus i rannu'r gwybodaeth yma hefo fy nheulu, ffrindiau a chi!

Diolch arbennig i Mike Raine, Dan o Caru Eryri am drefnu'r taith ag Eleri Turner am rhoi'r cyfle i mi ymuno. 











Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!