Wythnos o Radio, Hadau a Giatiau

 

Llun o'r llwybr i fyny at Raeadr Aber

Ymddiheuriadau am y lack of content yn ystod yr wythnosau diwethaf yma. Rhwng casglu hadau, cyrsiau allanol, gwartheg newydd a bythefnos o gladdu am naddion bwyeill, maent wedi bod yn amser brysur iawn. Ond fe glywoch chi am yr anturon a rhestrwyd yn ystod y blogiau i ddod!

Ar gychwyn yr wythnos, cefais y cyfle i siarad ar BBC Radio Cymru am y tro gyntaf ers i mi gychwyn fy mhrentisiaeth. Siaradais gyda Bryn Tomos ar raglen Aled Hughes yn y bore er mwyn trafod fy swydd a beth rydw i'n ddisgwyl allan o Brosiect y Carneddau - yn benodol beth ydwyf yn disgwyl allan o'm swydd. Ar ôl dipyn o egluro a trafodaeth am beth mae'r prosiect yn golygu i mi, sylweddolon ein bod wedi gweithio ar ddiwrnod gwirfoddoli hefo ein gilydd! Byd bach go iawn. Os rydych eisiau clywed y sgwrs, ewch ymlaen at 0:38 munud ar: Aled Hughes: Bryn Tomos yn gyflwyno.

I gychwyn y newid mewn tymor i Hydref, mae llawer o hadau angen cael ei gasglu er mwyn cychwyn plannu. Roedd cyfle i mi gychwyn yr wythnos gyda thaith ar hyd lwybr i fyny i Raeadr Abergwyngregyn er mwyn ceisio ddarganfod os yw'r hadau yn barod i'w gasglu. Gan fod diwedd mis Awst roedd hyn, doedd dim disgwyliad dwmpath o hadau i'w fod yn barod - ond roeddwn yn anghywir. Wedi synnu, roedd nifer iawn o fês yn barod i'w gynaeafu ar waelod y goed Derw Mês Di-goes, Quercus petraea. Bron i mi feddwl bod y coed yn disgwyl amdanaf!

Credaf mai oherwydd y tywydd berwedig yng nghanol mis Awst, mae nifer o goed am ollwng eu hadau yn gynharach blwyddyn yma, gan eu bod yn "feddwl" bod yr Hâf wedi mynd a dod. Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru mai o gwmpas diwedd mis Medi hyd at gychwyn mis Tachwedd yw'r amser gorau i hel hadau'r Derw Mês Di-goes, felly roedd y coed yn Abergwyngregyn yn gynnar iawn!

Dyma linc sydyn os rydych gyda'r diddordeb mewn hel mês di-goes yr Hydref yma. Darllenwch mai amseroedd casglu yn amrywio gyda'r lleoliad ac mae adnoddau yno hefyd ar sut i'w ddarparu:


Mae coed Derw Mês Di-goes yn debyg ond yn wahanol i goed Derw Saesneg. Fedrwch chi dyfalu pam? Yn amlwg, tydi Derw Mês Di-goes ddim gyda choesyn oddi ar y hadau, ac mae Derw Saesneg hefo. Mae hefyd diffiniadau gwahanol ar siap y dail. Mae'r Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gyflwyno diagram i geisio helpu gyda'r gwahaniaethau: 



Ar ôl cwpl o ddiwrnodau i gychwyn ar fy ngwaith cwrs, roedd hi'n amser i mi ymuno gydag Eleri a'r tîm Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ogwen. Darganfyddwyd nifer o afalau surion, Malus sylvestris, a chafwyd ei gasglu Hydref diwethaf a oedd yn barod i'w gael ei botio. Cychwynnodd ni trwy gwahanu croen yr afalau gyda'r hadau trwy nifer o ffyrdd gwahanol i weld beth roedd orau: rhoi mewn dŵr, gwneud gyda llaw, pwyso trwy rhidyll...

Coed Afalau Surion ar ôl cael eu potio

Yn y diwedd penderfynais mai trwy llaw roedd y ffordd orau gan fod bob ffordd arall yn cymeryd rhy hir ac roedd y canlyniadau'n annibynadwy. Wedi hynny, rhoddwyd yr hadau i mewn i'r potiau gan ddilyn y cymysg pridd â thywod gan The Good Seed Guide (Jon Stokes et al, 2001).

Wedi hynny roedd rhaid iddyn ni gorchuddio'r hadau gan roi mesh ieir o'i gwmpas rhag ofn i lygod neu anifeilaid eraill ei fwyta. Yr holl roedd angen ei wneud ar ôl hynny roedd disgwyl i weld os oes unrhyw dyfiant!

I orffen yr wythnos gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol roedd angen gosod giatiau newydd ar hyd caeau Blaen y Nant er mwyn paratoi tuag at wartheg i ddod yn yr wythnos nesaf. Pwrpas y gwartheg ar y caeau penodol yw i ysbrydoli Pori Cadwriaethol. Os nad ydych yn Gadwriaethwr, mae hynny'n golygu bod fydd y gwartheg yn cael eu symud o gae i gae ar ôl gyfnod o amser byr er mwyn cadw'r tir yn iach ac i annog blanhigion ac anifeiliaid eraill fel adar i ffynnu yno.

Llun ohonaf yn creu twll ar gyfer postyn un o'r giatiau

Roedd yr wythnos o weithio wedi dod i ben ac roedd hi'n barod i mi ymddeol - am y benwythnos wrth gwrs. Roedd wythnos cyffroes i ddod gyda chwrs hadau yn y golwg ac wrth gwrs y gwartheg!








Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!