Yr Wythnos Gyntaf
Llun ohonaf gyda fy ngwisg newydd yn y fan byddaf yn defnyddio yn ystod y flwyddyn nesaf
Y Diwrnod Cyntaf
Dechreuodd yr wythnos cyntaf gyda chyfarfod nifer o bobl newydd a gael taith o'r prif adeilad y Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth. Cefais y gyfle i gyfarfod y tim a gael cychwyn ar y papur gwaith ymrestru.Roedd angen cael cyfarfod gyda staff Coleg Cambria hefyd i drafod dyddiadau'r cwrs cadwraeth i mi a pha pynciau rydw i wedi cael diddordeb ynddi. Ar hyn o bryd rwyf wedi cael ddiddordeb yn:
- Rheoli a chadwraeth gwylptiroedd
- Diogelu gwylptiroedd
- Llwybrau a mynediad i'r Parc Cenedlaethol (yn benodol y Carneddau)
- Cynnal a chadw llwybrau a waliau cerrig.
Roedd ganoedd o gyrsiau i'w ddewis, felly os rwy'n teimlo bod dydy un o'r cyrsiau ddim i fi, bydd dim problem i mi newid gyda ddigon o sylw. Mae staff a fy nhiwtor Coleg Cambria wedi bod yn gefnogol iawn ar gyfer fy ddewisiadau ac rwy'n edrych ymlaen at gychwyn y gwaith.
Es i am dro wedyn i weld y storfa anferth ble mae nifer o'r offer/cerbydau/peiriannau'r parc yn gael ei gadw. Roeddwn i'n dysgu llawer gan fy rheolwr llinell, Rhydian Roberts, am pwrpasau nifer o'r offer a ble fyddai'n debygol o'u defnyddio yn ystod y flwyddyn i ddod.
Wedi hynny, cefais: Y NEMO.
Y Nemo pawb yw'r fan byddaf yn defnyddio ar gyfer mynd a dod ar draws y Parc Cenedlaethol. Roedd angen bach o "touch-up" a llnau ar gyfer fy safon i ond yn gyffredinol roeddwn i'n cynhyrfus iawn i'w drio allan. Er hynny, roeddwn i'n drysu braidd yn meddwl mai'r pysgodyn Nemo roedd pawb yn siarad am.
Cyn i mi wybod, roedd fy ddiwrnod cyntaf drosodd ac roedd amser i mi gyrru Nemo adref i safle Partneriaeth Tirwedd y Carneddau ym Methesda.
Diwrnodau 2, 3 a 4
Roedd rhan fwyaf o fy wythnos cyntaf wedi'i wario yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn Glynllifon ar gwrs Chwynladdwyr. Cymerwyd y cwrs yma 3 diwrnod i'w gwblhau yn ogystal a diwrnod arall nes ymlaen ar gyfer y profion theori ac ymarferol.
Y Cwrs roedd: Coleg Meirion Dwyfor, Glynllifon - Pesticides
Mi wnes i cwblhau'r adrannau:
- PA1 = Defnydd Diogel o Chwynladdwyr
- PAW = Chwynladdwyr wrth ymyl dwr
- PA6 = Pigiad Coesyn Planhigyn gyda Chwynladdwyr
Gorffennais y cwrs yn hyderus ac yn barod am y profion yr wythnos wedyn. Diolch i Geoff Bassett am ein dysgu.
Diwrnod 5Yn sydyn iawn diwrnod olaf o fy wythnos cyntaf. Roedd hi wedi bod yn wythnos diddorol tan hynny ac roedd heddiw am ei wneud yn well byth!
Cychwynais y dydd yn ymweld a'r meithrinfa coed sydd gan y Parc Cenedlaethol yn Henfaes, Abergwyngregyn. Mae'r maes wedi'i berchen gan Prifysgol Bangor. Mi wnes i gyfarfod mwy o'r tim wardeiniaid y Parc a chael cylchdaith o'r meithrinfa a pha waith chwynnu/dyfrio byddwn yn gwneud.
Comments
Post a Comment