Walio, Chippio a Choughs

 

Llun ohonaf yn gwisgo helmet wrth rhoi canghenion i fewn i'r chipper

Ymddiheuriadau bod y blog yma bach yn hwyr, rwyf wedi bod ar wyliau i rywle sydd yn enwog am y distawrwydd a'r awyrgylch soffistiedig: Ibiza...

I'r rhai ohonych roedd gyda diddordeb yn y blog diwethaf, rwy'n sicr rydych yn cosi i glywed beth roedd enw'r lindysyn a ddangoswyd ar ddiwedd y blog. Gwalchwyfyn Eliffant (Elephant Hawk Moth) roedd e, Deilephila elpenor felly llongyfarchiadau os wnaethoch chi gael o'n gywir!

Roedd yr wythnos yma yn un diddorol a heulog iawn. Cefais y gyfle i fynd i nifer o lefydd gwahanol a dysgu sgiliau newydd ar y ffordd. Cychwynais yr wythnos gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhal y Llyn. Yno, roedd angen ail-adeiladu un o'r waliau cymeriadol wrth ymyl hen fwlch yr Ail Ryfel Byd. Doeddwn i erioed wedi adeiladu wal cerrig o'r blaen ac felly roedd hyn yn brofiad newydd i mi. Dysgais gan un o'r Geidwaid, Geth, y ffordd mae wal yn cael ei adeiladu a beth yw'r camau sydd angen eu dilyn er mwyn sicrhau bod y wal am aros yn gryf. 

Mae yna: Sylfaen, Cerrig Trwm Canolig, Cerrig bychain (Hearting) sydd yn mynd yng nghanol bod dim arall i osgoi gapiau a chadw cryfder, mae haen o Gerrig Fflat sydd yn wedyn yn creu gwely ar gyfer y Coping.


Lluniau o'r wal cerrig a chafwyd ei orffen yn Nhal y Llyn. Mae'r llun ar y dde yn dangos yr coping mi wnes i ar y wal. 

Doedd gen i ddim syniad pa mor gymhleth roedd hi i adeiladu wal cyn nawr ac rwy'n hapus fy mod i wedi dysgu sut i'w wneud. Rwyf wedi rhoi fy enw i lawr i wneud hyfforddiant mewn adeiladu mwy o waliau cerrig ar gyfer fy nghwrs Coleg Cambria ac yn edrych ymlaen at beth mwy sydd yna i ddysgu. 

Roedd fy ddiwrnodau gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi'u darfod am yr wythnos ac roedd hi'n amser i mi wario amser gyda'r Parc Genedlaethol. Cychwynais fy amser gyda dyfrio a chwynnu yn ein meithrinfa coed yn Henfaes, Abergwyngregyn cyn ymuno a'r gweddill ym Mhlas Tan y Bwlch i gael diweddariad ar y coeden a ddisgynnodd. 

Diweddariad o'r ffawydden â ddisgynnodd 

Roedd nifer o waith wedi'u gwneud ers i mi weld y coeden diwethaf a phan gyrhaeddais roedd y prif ganghenau wedi'i symud ac dim ond yr boncyff roedd ar ôl (yn ogystal â'r ganghenion roedd angen ei symud yn yr afon isod). Roedd angen i Sam, aelod staff y Parc gyda chymhwyster dringo, mynd i lawr i'r afon a defnyddio rhaffau i godi'r ganghenion. Dyma ni ar ben y bont yn barod i'w gasglu a'i roi yn y chippar (fel gwelir yn llun cyntaf y blog yma)! 

Cefais hwyl ar y diwrnod yma wrth i mi ddysgu beth sydd angen ei wneud os mae coed yn disgyn. Roeddwn i o hyd wedi dod ar draws lon gyda choeden i lawr ac wedyn gweld yr wythnos nesaf ei fod wedi mynd, ond erioed wedi meddwl am yr holl broses sydd angen digwydd i wneud hynny'n bosib!

I orffen yr wythnos gwaith mi aethom ni ar daith i Lanbedr, Harlech i ymweld ag llwybrau yn ein coedwig Hafod y Bryn. Roedd hi'n diddorol i mi dysgu'r gwahaniaeth rhwng llwybr cyhoeddus a llwybr caniataol a beth yw'r gwahanol arwyddion:

Llwybr Cyhoeddus: Mae gen unrhyw aelod o'r cyhoedd hawl i gerdded ar y llwybr honno. Arwydd melyn ar gefndir gwyrdd.

Llwybr Caniataol: Mae'r llwybr yn mynd trwy tir preifat ac gyda chaniatâd mae hawl i chi gerdded arno. Arwydd gwyn ar gefndir gwyrdd.

Ar ôl dipyn o chwynnu a glirio'r llwybr cyhoeddus roedd ein amser i fyny ac wnaethom ni adael Hafod y Bryn ar ddiwrnod braf i gael golyfga hardd o draeth Harlech ar y ffordd adref.

Arolwg Adar Chough

Doedd yr wythnos heb ei ddarfod eto! Roedd cyfle i mi gwneud arolwg gydag adar Chough ar Ddydd Sul er mwyn ceisio darganfod mwy o wybodaeth ar ble mae'n nhw'n teithio. Mi wnaethom ni gwahanu i fewn i grwpiau ar draws Gogledd Cymru, fi ag Eleri yn Nyffryn Ogwen ag eraill ar yr Orme Fawr yn Llandudno er mwyn nodi os rydym yn gweld unrhyw Chough. 

Llun o aderyn Chough oddi ar wefan yr RSPB.

Roedd yr ymchwil ar gyfer Jack Slattery o'r RSPB a wnaethom ni gyfarfod gyda fo a'r gweddill ym Maes Cadwraeth Pensychnant

Es i ar y taith gydag Eleri Turner trwy Nant Ffrancon a trwy'r cwmau i fyny hyd at Bwthyn Ogwen. Mi aethom ni i fyny Cwm Graianog ac wedyn ar draws Y Galan, Cwm Bual, Cwm Coch, Creigiau Glenion ac i lawr trwy Gardd y Madarch yn ôl i waelod y Glyderau. Roedd hi'n daith hir ond hardd iawn ond yn anffodus ni welom ni unrhyw Chough - sydd yn peth da weithiau! O hynny, dysgom bod yr adar Chough ddim yn Nant Ffrancon yn y boreuau yna ac roedd hi'n debygol eu bod rhywle arall.

Golygfa hardd o Gwm Coch wrth chwilio am adar Chough

Ar ôl tua 4 awr o chwilio, aethom ni i fyny i gyfarfod gweddill yr ymchwilwyr ym Mhensychnant a rhannu ein ganfyddiadau. Digwydd bod, roedd y grŵp ar yr Orme fawr wedi gweld 24 aderyn chough! 

Dyna lle roedden nhw'n cuddiad! 

Roedd hi'n diddorol gwrando ar Jack am y pwysigrwydd o beth mae'r canfyddiadau yma yn feddwl ac bod dim canlyniad dal yn ganlyniad! Ar ôl gyfweliad bach gyda'r criw ffilmio, tê a chacen ac taith o gwmpas yr adeilad roedd y diwrnod a'r wythnos i ben. Am daith hardd i orffen yr wythnos!







Er doedd dim Chough i weld ar y daith yma, mi wnes i sbotio aderyn diddorol ar y ffordd i fyny - Palod ar sanau Eleri!










Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!