Be neshi ar yr ail wythnos?

 

Llyn Ogwen ar fy ddiwrnod cyntaf gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (National Trust)

Cychwynnodd yr ail wythnos trwy gwario dau diwrnod gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mi wnes i gyfarfod y tîm a hefyd cael taith o amgylch Bwthyn Ogwen ble mae un o'r safleoedd trust wedi'i osod. Roedd hyn yn diddorol i mi fel berson lleol sydd yn mynd heibio'r Bwthyn o hyd ond heb gweld beth sydd i fewn neu pwy sydd yn gweithio yna. 

Mi wnes i wario rhan fwyaf o'r diwrnodau gydag Eleri Turner (a oedd yn fy swydd i fel Prentis blwyddyn diwethaf) sydd nawr yn ranger i'r tiriogaeth y Carneddau. Mae Eleri nawr yn gyswllt agos gyda'r Partneriaeth Tirwedd y Carneddau ac mae disgwyl i mi wario llawer o amser gyda'i yn ystod y flwyddyn nesaf, sydd yn ddelfrydol i mi er mwyn ateb cwestiynau a holi am fy nghyfrifoldebau. 

Aethom i Dal-y-Braich (Uchaf), Gwern Gôf Isaf a Tal-y-Llyn yn ystod y bore lle roeddwn yn dysgu llawer am y ffermio sydd wedi bod yna am ganrifoedd. Yn ogystal, roedd cyfle i mi ddod i adnabod y rhywogaethau coed a phlanhigion eraill o amgylch Llyn Ogwen a beth yw rhai pwrpasau.

Er enghraifft: Roeddech chi'n gwybod bod planwyd Coed Pinwydden yr Alban er mwyn rhoi arwydd bod lletygarwch yn agos? Ffaith diddorol mi wnes i ddysgu gan Eleri.

Mi wnaethom ni wario ein prynhawn yn Blaen Nant ble mae meithrinfa coed ac offer yr Ymddiriedolaeth yn cael ei gadw. Roedd angen chwynnu a trefnu'r coed er mwyn gael nhw'n barod i'r system dŵr newydd sydd i ddod yn y dyddiau nesaf. Bydd y system yn dyfrio'r coed ar amserlen yn y bore a gyda'r prynhawn hwyr.

Ar y Dydd Mawrth, roedd lot o waith gorfforol i'w wneud yn Blaen Nant. Mi wnaethom ni wario rhan fwyaf o'r diwrnod yn symud postynau a darnau o bren o'r stordai i adeilad agos er mwyn creu mwy o le ar gyfer silffoedd ac offer cadwriaethol.

Mi wnes i wario gweddill yr wythnos gyda'r Parc Cenedlaethol ac yn dysgu llawer mwy o bethau am meithrinfa coed, rhywogaethau a llwybrau cyhoeddus i gael mynediad at coedwigoedd y parc. Yn benodol, mi wnes i gyfarfod Warden Jon Foster ym Mhlas Tan y Bwlch yn y meithrinfa coed. Dangoswyd Jon yr holl rhywogaethau sydd yna ac eglurwyd beth yw'r proses o hadau, lluosogi, tyfu, chwynnu a chael y coed yn barod i gludo ar hyd Eryri. 

                              
Dyma lluniau "cyn" ac "ar-ôl" chwynnu Coed Pinwydden yr Alban ifanc (tua blwyddyn oed). Bydd y coed yma yn barod i'w dosbarthu mewn cwpl o flynyddoedd.

Fel welwch yn y lluniau uchod, pwrpas y chwynnu yw gwneud yn sicr does dim chwyn neu planhigion eraill yn cystadlu gyda'r coeden penodol rydym eisiau tyfu yna. Yn yr achos yma, roedd llawer o chwyn a gwair wedi ordyfu ac yn cymeryd adnoddau;r Coed Pinwydden fel golau a dŵr. Cafwyd y problem ei sortio trwy chwynnu ac nawr fedrith y coed tyfu yno heb aflonyddwch.

Wedi hynny, mi wnaeth Jon mynd a fi a warden tymhorol, Gwion, i fyny i Blas Tan y Bwlch i gael golwg ar goeden sydd wedi disgyn ac egluro beth mae'r Parc a'r awdurdodau lleol yn gwneud amdani.

Llun o'r coeden wedi disgyn ar lôn wrth ymyl Plas Tan y Bwlch. Roedd y coeden wedi dinistro'r wal cyferbyn yn ogystal a nifer o ganghenion coed agos a'i ddisgyn i fewn i'r afon.

Roedd hyn yn bwysig iawn i mi er mwyn ceisio deall beth yw cyfrifoldebau wardeiniaid a sut mae problemau coedwigoedd y Parc Cenedlaethol yn effeithio'r cyhoedd.

Wedi hynny, aethom ni am dro trwy coedwig Tan y Bwlch i ddysgu hanes yr ardal a'r Plas. Yn fwy benodol, dysgais am beth mae arolygon coed yn golygu er mwyn atal yr rheini fel y llun uchod. Mae rhaid:
  1. Gweld os oes yna rhwystr corfforol
  2. Gweld os oed yna rhwystr uchod (oes risg bod cangen/coeden am ddisgyn)
  3. Os oes, creu nodyn a tynnu lluniau er mwyn cael cyfarfod a gweld os angen i'r problem cael ei ddelio gyda. 



Yn ystod ein taith mi wnaethom ni gweld coeden gyda chymeriad da. Mi wnaeth y goeden yma (ar y dde) disgyn blynyddoedd yn ôl a phenderfynwyd y Parc ei gadw fel "nodwedd" i'r coedwig. 

Fedrwch chi dyfalu pam?

Roedd dadl bach rhwng fi a Gwion, teimlaf bod yr coeden yn edrych fel Chameleon ond mae o'n pendant mai ddraig yw e. 





Rydw i'n teimlo'n hapus ac mwy hyderus am fy ngwybod o rywogaethau coed nawr ar ôl ein taith o gwmpas Tan y Bwlch a'r meithrinfeydd coed ar draws Eryri. Bydd y gweddill yn dod ataf yn ystod fy mlwyddyn prentisiaeth rwy'n siwr, ond am nawr fedrai enwi coeden (neu ddau!). 

Gorffenwyd yr wythnos gyda mwy o chwynnu ond tro yma yn feithrinfa coed Henfaes, Abergwyngregyn. Mae'r chwyn wedi'i ordyfu dros yr Haf ac mae angen ei dorri'n nôl am yr un rhesymau a sydd yn meithrinfa Tan y Bwlch: cystadleuaeth.

Llun o feithrinfa coed a polytunnel Henfaes cyn i mi ddyfrio a chwynnu. 

Rydw i'n wedi cael wythnos anhygoel llawn dysgu a mynd i lefydd newydd. Fedrai ddim disgwyl tan rydw i'n defnyddio'r sgiliau rwyf wedi dysgu yn y dyfodol a hefyd fy ngwybod newydd o rywogaethau coed mewn trafodaeth.

CWESTIWN:

Ydych chi hefo syniad pa math o lindysyn yw hwn? Neu yn fwy manwl, pa fath o wyfyn mae o'n droi i?
Cadwch llygaid ar y blog yma i weld yr ateb!









Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!