Y Brentisiaeth

 

Llun ohonaf yn gwirfoddoli gyda Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau yn glirio Jac y Neidiwr

Beth yw'r Prentisiaeth?

Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn cynnig Prentisiaeth i unigolyn sydd gydag angerdd dros diogelu'r Carneddau a'r rhywogaethau sydd i'w weld ynddi. Mae'r Prentisiaeth yn barau am flwyddyn ac yn cynnig datblygiad o nifer o sgiliau newydd ella na fydd y berson wedi dysgu yn ystod coleg neu cwrs prifysgol. Blwyddyn yma, rydw i wedi cael y cynnig a'r bleser i fod y Prentis ar gyfer 2022-23.

Bydd gen i nifer o gyfrifoldebau yn ystod y flwyddyn nesaf ac rwyf yn disgwyl dysgu llawer mwy o wybodaeth am ardal fy hun, a sut fedra i wneud gwahaniaeth ar gyfer y genhedlaethau i ddod. Yn ôl disgrifiad y swydd byddaf yn gwneud "eang o waith ymarferol" gan gynnwys cynorthwyo gydag archwiliadau diogelwch coed, rheoli coetir, plannu a chynorthwyo gyda datblygiad feithrinfa coed a mwy. 

Ma'r Prentisiaeth am fod yn daith diddorol iawn i mi yn ystod y flwyddyn nesaf. Rwy'n edrych ymlaen tuag at y gyfrifoldebau sydd o'm mlaen i ynglŷn â'r cyhoedd er enghraifft cynorthwyo'r tîm i gyfleu negeseuon allweddol sy'n gysylltiedig â'n gwaith, gweithio gyda gwirfoddolwyr ac ysgolion a dilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan y rheolwr llinell yn y tîm Cadwraeth, Coetiroedd, Ucheldiroedd ac Amaeth.

Byddwn hefyd yn cyd-dysgu gyda Choleg Cambria, ble fyddwn yn dewis modiwlau sydd o ddiddordeb i mi ac gobeithio dysgu mwy o'r ochr ysgrifenedig swyddi posib. 

Pwrpas y Prentisiaeth yw "rhoi profiad gwaith" er mwyn i fi fod barod i weithloedd cadwriaethol yn y dyfodol. Byddaf yn arfogi sgiliau na fyddent efallai wedi'u datblygu'n llawn ar fy nghwrs Prifysgol ac felly rwy'n edrych ymlaen at beth sydd i'w gynnig. 


Sut wnes i ddarganfod y swydd?

Ar ôl graddio gyda BSc mewn Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid yn 2021, penderfynais i ymestyn fy ymwybyddiaeth o gadwraeth yn ardal fy hun ac felly edrychais i mewn i swyddi lleol yn y maes. Roedd dipyn o "nôl a mlaen" gyda swyddi posib, felly penderfynais i ganolbwyntio ar wirfoddoli yn ystod fy amser rhydd o weithio llawn-amser. Gan fod roeddwn wedi cael profiadau cyfweliadau a sgyrsiau gyda aelodau staff y Parc Cenedlaethol Eryri, roedd gen i dipyn o ymwybyddiaeth i le i edrych am waith wirfoddoli. 

Cychwynais ar y gwefan: 'My Impact Page'

Mae'r gwefan yma yn ddelfrydol iawn ac yn hawdd i'w ddefnyddio er mwyn pigo dyddiadau gwirfoddoli sydd yn dda i fi. Does dim lleiafswm neu uchafswm o shifftiau fedrai gwneud sydd yn dda i berson sydd yn gweithio llawn neu rhan amser.

Gwirfoddolwyr yn clirio Eithin ar Foel Faban, Bethesda

Rydw i wedi bod rhan o nifer o sesiynau gwirfoddoli gan gwneud amrywiaeth o fathau o gadwraeth. Enghreifftiau o rhain yw:

  • Plannu Coed Brodorol
  • Clirio Eithin oddi ar maes archeolegol
  • Clirio Jac y Neidiwr a rhywogaethau ymledol eraill
  • Bod rhan o ffilmio ar gyfer BBC Countryfile ar Foel Faban, Bethesda
  • a mwy...!
Trwy gwirfoddoli am fisoedd a siarad gyda nifer o aelodau staff y Partneriaeth (yn ogystal â dilyn diweddariadau y Partneriaeth ar gyfryngau cymdeithasol) roeddwn i wedi darganfod yr Prentisiaeth i ddod a phenderfynais i geisio.


Pa chymwysterau ydw i wedi cael er mwyn ceisio am y Brentisiaeth?

Dyma rhai o'r cymwysterau sydd gen i a wnaeth helpu i mi cael y Prentisiaeth:

  • Gradd BSc mewn Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid (tydi hyn ddim yn orfodol i'r swydd)
  • Blwyddyn o wirfoddoli gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Eryri a sefydliadau Craidd y Partneriaeth.
  • Gydag ymwybyddiaeth lleol gan fy mod wedi fy magu ym Methesda ac wrth bwys y Carneddau by holl fywyd.
  • Gyda'r angerdd a'r dealltwriaeth o gadwraeth yn gyffredinol yn enwedig ymdrechion lleol.
  • Yr gallu i drafod a siarad Cymraeg yn rhugl.


Beth ydw i'n disgwyl?

Gan fy mod wedi cael profiad cyfarfod gydag aelodau staff y Partneriaeth, roedd hefyd cyfle i mi gyfarfod Prentis 2021-22 sef Eleri Turner, a chael sgwrs am sut mae'r flwyddyn wedi bod i hi. Roedd hyn yn help anferth i fy mharatoi'n feddyliol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Prentis 2021-22, Eleri Turner

Eglurais Eleri bod y swydd yn un diddorol a hwyl iawn ond wrth gwrs mae heriau annisgwyl er enghraifft cyd-bwyso gwaith Coleg Cambria gyda gwaith i'r Barc Cenedlaethol neu Cymdeithas Eryri neu Digwyddiadau Gwirfoddoli neu'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol...(ac ati). Mae lot i gydbwyso yn y rôl yma a diolch i Eleri mae gen i syniad gwell rwan o'r llwythi gwaith i ddod. 

Yn naturiol, rydw i'n berson trefnus iawn felly gobeithio fedrai rhoi'r sgiliau yma ymlaen i'r llwythi gwaith y Brentisiaeth.

I ychwanegu, rwyf wedi bod yn "astudio" (os hoffwch) wardeiniaid, cydlynyddion ac wrth gwrs y Prentis diwethaf yn ystod fy sesiynau gwirfoddoli er mwyn i mi gael bach mwy o syniad o beth sydd i'w ddisgwyl gennyf pan mae o'n twrn fi.

Rydw i'n disgwyl dysgu llawer mwy am goetir a rhywogaethau'r ardaloedd y Carneddau a hefyd dysgu sgiliau newydd fel cludo planhigion, gweithio gyda rywogaethau dydw i heb weithio hefo eto a dysgu mwy am rôlau'r sefydliadau i'r Partneriaeth.

Rhywbeth rwy'n edrych ymlaen at gwneud yw cynnal sesiwn fy hun i'r cyhoedd neu gwirfoddolwyr. Dywed Eleri ei fod wedi cynnal sesiynau 'Ysgol Coed' i blant er mwyn iddyn nhw dysgu mwy am y coed lleol. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn addysgu'r cyhoedd o'r Carneddau ac felly rhai syniadau fy hun i sut i wneud hynny (bydd rhain i ddod mewn blogiau'r dyfodol!).


Dydw i ddim 100% yn sicr beth rydw i'n disgwyl, ond mae hynny'n naturiol i unrhyw berson mewn swydd newydd, felly rwy'n edrych ymlaen at beth sydd i ddod.

Rwy'n gobeithio bydd y blogiau yma'n ddefnyddiol i ymgeiswyr 2023-24!



Comments

Popular posts from this blog

Ffrindiau Wcrain yn ymweld ag Aber

Archebion Coed

Claddu Bwyeill Neolithig - Wythnos 2!