Torri Eithin ar Garnedd y Saeson

Llun ohonaf ar Garnedd y Saeson ar ddigwyddiad torri eithin Ar yr 20fed o Ionawr roedd yna gyfle arall i ni gyd-weithio gyda sefydliadau eraill y Partneriaeth Tirwedd y Carneddau er mwyn clirio eithin oddi ar maes archeolegol y Carneddau. Roeddwn ni wedi bod yn gweithio ar maes Anafon, Abergwyngregyn eleni ond roedd y safle yna wedi'i orffen felly symudodd y grŵpiau ymlaen at safle bach yn uwch ar Garnedd y Saeson. Mae yna carneddau wedi'i guddio ar fynydd Carnedd y Saeson, hence yr enw , yn yr eithin ac mae'n bwysig rydym yn darganfod a chlirio nhw rhag ofn iddyn nhw cael ei ddifetha a'i anghofio. Mae clirio safleoedd archeoleg yn bwysig oherwydd mae'n galluogi ni cael dealltwriaeth mwy eang o hanes yr ardal yn ogystal â chreu ymdrechion i'w goroesiad. Mae mynyddoedd Cymru llawn hanes sydd yn mynd yn ôl at miloedd o flynyddoedd a buasai'n bechod i ni parhau ei golli. Archeolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Kathy Laws, yn trafod archeoleg y safle Roedd...