Walio, Chippio a Choughs

Llun ohonaf yn gwisgo helmet wrth rhoi canghenion i fewn i'r chipper Ymddiheuriadau bod y blog yma bach yn hwyr, rwyf wedi bod ar wyliau i rywle sydd yn enwog am y distawrwydd a'r awyrgylch soffistiedig: Ibiza... I'r rhai ohonych roedd gyda diddordeb yn y blog diwethaf, rwy'n sicr rydych yn cosi i glywed beth roedd enw'r lindysyn a ddangoswyd ar ddiwedd y blog. Gwalchwyfyn Eliffant (Elephant Hawk Moth) roedd e, Deilephila elpenor felly llongyfarchiadau os wnaethoch chi gael o'n gywir! Roedd yr wythnos yma yn un diddorol a heulog iawn. Cefais y gyfle i fynd i nifer o lefydd gwahanol a dysgu sgiliau newydd ar y ffordd. Cychwynais yr wythnos gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhal y Llyn. Yno, roedd angen ail-adeiladu un o'r waliau cymeriadol wrth ymyl hen fwlch yr Ail Ryfel Byd. Doeddwn i erioed wedi adeiladu wal cerrig o'r blaen ac felly roedd hyn yn brofiad newydd i mi. Dysgais gan un o'r Geidwaid, Geth, y ffordd mae wal yn cael ei adeila...