Posts

Showing posts from September, 2022

Wythnos o Radio, Hadau a Giatiau

Image
  Llun o'r llwybr i fyny at Raeadr Aber Ymddiheuriadau am y lack of content yn ystod yr wythnosau diwethaf yma. Rhwng casglu hadau, cyrsiau allanol, gwartheg newydd a bythefnos o gladdu am naddion bwyeill, maent wedi bod yn amser brysur iawn. Ond fe glywoch chi am yr anturon a rhestrwyd yn ystod y blogiau i ddod! Ar gychwyn yr wythnos, cefais y cyfle i siarad ar BBC Radio Cymru am y tro gyntaf ers i mi gychwyn fy mhrentisiaeth. Siaradais gyda Bryn Tomos ar raglen Aled Hughes yn y bore er mwyn trafod fy swydd a beth rydw i'n ddisgwyl allan o Brosiect y Carneddau - yn benodol beth ydwyf yn disgwyl allan o'm swydd. Ar ôl dipyn o egluro a trafodaeth am beth mae'r prosiect yn golygu i mi, sylweddolon ein bod wedi gweithio ar ddiwrnod gwirfoddoli hefo ein gilydd! Byd bach go iawn. Os rydych eisiau clywed y sgwrs, ewch ymlaen at 0:38 munud ar: Aled Hughes: Bryn Tomos yn gyflwyno . I gychwyn y newid mewn tymor i Hydref, mae llawer o hadau angen cael ei gasglu er mwyn cychwyn pl

Traeth yng Nghwm Idwal?

Image
Llun o Gwm Idwal gan Alan Novelli Mae hi wedi bod yn wythnos diddorol arall wrth bwys y Carneddau gyda'r Parc Cenedlaethol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fel arfer, cychwynais yr wythnos gyda'r Parc Cenedlaethol, gyda llawer o chwynnu i'w wneud yn ein meithrinfa coed yn Henfaes, Abergwyngregyn.  Cymhariad o gyn-chwynnu ac ar ôl chwynnu coed Derw Saesneg, Henfaes Fel welwch yn y lluniau uchod, roedd lot o waith chwynnu i wneud ar y coed Derw Saesneg yn y meithrinfa. Roedd y coed wedi'i gorchuddio gan gor-dyfiant o chwyn ac felly roeddent yn gystadlu am adnoddau fel golau haul ac dŵr. Roedd y chwyn wedi cymeryd drosodd gymaint roedd hi'n anodd iawn i ddarganfod y coeden yn y potyn ac felly roedd rhaid unai tynnu'r chwyn o'r potyn neu ei dorri gyda secateurs. Bu'r coed yma yn barod i gael ei ddosbarthu i Ymddiriedolaeth Coetir ( Woodland Trust ) yn ystod y flwyddyn nesaf.  Mi ddarganfyddais lot o fywyd gwyllt wrth chwynnu fel lindys, sboncen y gwait