Y Brentisiaeth

Llun ohonaf yn gwirfoddoli gyda Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau yn glirio Jac y Neidiwr Beth yw'r Prentisiaeth? Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn cynnig Prentisiaeth i unigolyn sydd gydag angerdd dros diogelu'r Carneddau a'r rhywogaethau sydd i'w weld ynddi. Mae'r Prentisiaeth yn barau am flwyddyn ac yn cynnig datblygiad o nifer o sgiliau newydd ella na fydd y berson wedi dysgu yn ystod coleg neu cwrs prifysgol. Blwyddyn yma, rydw i wedi cael y cynnig a'r bleser i fod y Prentis ar gyfer 2022-23. Bydd gen i nifer o gyfrifoldebau yn ystod y flwyddyn nesaf ac rwyf yn disgwyl dysgu llawer mwy o wybodaeth am ardal fy hun, a sut fedra i wneud gwahaniaeth ar gyfer y genhedlaethau i ddod. Yn ôl disgrifiad y swydd byddaf yn gwneud "eang o waith ymarferol" gan gynnwys cynorthwyo gydag archwiliadau diogelwch coed, rheoli coetir, plannu a chynorthwyo gyda datblygiad feithrinfa coed a mwy. Ma'r Prentisiaeth am fod yn daith diddorol iawn i mi yn ysto...