Posts

Showing posts from June, 2023

Ta Ta Prentisiaeth :(

Image
  Y ddwy prentis Carneddau, fy hun ac Eleri Turner (chwith) Annwyl darllenwyr, Fedrai ddim coelio bod fy nghyfnod fel Prentis ar gyfer Partneriaeth Tirwedd y Carneddau wedi dod i ben. Mae hi wedi bod yn flwyddyn o waith ANHYGOEL a fedrwn i ddim yn dymuno dim newidiadau. I roi bach o gyd-destun, mi roedd y swydd am gyfnod o flwyddyn felly do rwyf wedi gorffen braidd yn gynharach. Y rhesymau yw: 1. Roeddwn i wedi cwblhau rhan fwyaf o fy ngwaith gyda Choleg Cambria cyn ddiwedd yr flwyddyn 2. Ceisiais a derbynais swydd foddhaol gyda'r Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau Tan ddiwedd y cynllun (sef Rhagfyr 2025) fyddai dal i barhau i weithio ar y Cynllun Carneddau ond yn lle fel prentis, rydwyf nawr yn Swyddog Ymgysylltu Cymunedol - i Gogledd y Carneddau felly ar hyd yr arfordir lawr Dyffryn Conwy. Mae hyn yn golygu byddai nawr yn gyfrifol am gysylltu cymunedau'r Carneddau gyda'r ardal a'r gwaith sydd yn mynd ymlaen yn ogystal รข chreu perthnasoedd yr cymunedau yma gyda&#